Eich Cyngor Chi

Croeso

Ymrwymiad Sir y Fflint i brentisiaid

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod pedwar prentis bellach yn gweithio gyda chontractwyr lleol, diolch i'r "Academi Prentisiaid" a ddatblygwyd gyda Gwaith yn yr Arfaeth Sir y Fflint.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae contractau adeiladu’r Cyngor bob tro’n mynnu bod y contractwr yn darparu cyfleoedd prentisiaeth ac yn recriwtio gweithwyr lleol, ond yn aml, mae’n anodd cwblhau'r prentisiaethau oherwydd natur y contractau. Bydd creu’r Academi hon yn sicrhau bod modd cynnig a darparu prentisiaethau llawn. Y math o rolau sydd eu hangen yw plymio, gwaith saer, plastro, nwy a thrydan, bricwyr, ond hefyd bydd angen rolau eraill fel swyddogion cyswllt tenantiaid a syrfewyr meintiau.

Mae’r prentisiaid yn gweithio gyda chontractwyr sydd wedi’u penodi gan y Cyngor – tri gyda Wates Residential yn y Fflint - Nathan Bloor, Jamie Hayward a Beth Mclellan ac mae Harvey Appleby gyda Keepmoat yn yr Wyddgrug.

Dywedodd y Prentis Gweithredwr Crefftau Amrywiol, Beth Mclellan:

"Fe wnes i gais am y brentisiaeth yma er mwyn gallu deall a phrofi gwahanol grefftau a oedd ar gael yn y diwydiant. Roeddwn i mor falch bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus. Rwy’n ei fwynhau gan fod pob diwrnod yn gwbl wahanol – mae gwaith a thasgau newydd i'w gwneud, ac rwy’n gallu ehangu fy sgiliau a phrofi pethau newydd."

Dywedodd prentis arall mewn Gweinyddu Busnes, Harvey Appleby:

"Fe wnes i gais am brentisiaeth gan fy mod i am gael profiad mewn awyrgylch swyddfa go iawn tra ro'n i'n astudio cwrs coleg. Rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau newydd yn barod, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwaith yn yr Arfaeth, Mark Scott:

"Rydyn ni'n frwd dros ddarparu dyfodol cynaliadwy i ystod amrywiol o bobl ifanc ddawnus. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint i greu cyfleoedd ychwanegol ar brosiectau lle mae'n anodd cael rhai neu rai sy'n aml yn diflannu." 

Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn gwmni buddiannau cymunedol sydd â'r profiad perthnasol, y diwylliant a'r gwerthoedd cywir i fod yn bartner agos i’r Cyngor ac mae gweithio gyda thrydydd parti yn lleihau'r gost o weinyddu'r cynllun yn sylweddol i’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd am brentisiaethau, cysylltwch ag Amy Dutton ar 01352 703453 neu amy@futureworks.wales.

 

Gwneud pethau’n wahanol – llwyddiant Sir y Fflint

Mae Sir y Fflint wedi gweld newidiadau mawr. Yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, lle mae cyllidebau llai wedi arwain at benderfyniadau anodd a’r posibilrwydd o golli neu gwtogi gwasanaethau, mae modelau darparu amgen wedi ein galluogi i gadw gwasanaethau a rheoli’r gyllideb.

Fel awdurdod arloesol sy’n meddwl am y dyfodol, mae Sir y Fflint yn parhau i arwain y ffordd drwy annog ei dimau proffesiynol i dorri tir newydd gyda syniadau arloesol.

Rydym ni wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol i drosglwyddo nifer o asedau cymunedol yn llwyddiannus. Mae’r asedau cymunedol sydd wedi eu trosglwyddo o ddwylo’r Cyngor i grwpiau cymunedol neu elusennol, i’w rhedeg er budd y gymuned, yn cynnwys canolfan gymuned, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a phwll nofio.

Ym mis Mawrth 2016 trosglwyddwyd canolfan bentref Gwernymynydd i grŵp cymunedol lleol. Bu i Bwyllgor Rheoli’r Ganolfan Bentref gymryd cyfrifoldeb dros y ganolfan ar ran y gymuned yn dilyn llofnodi cytundeb ffurfiol gyda’r Cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae cyfleusterau eraill sydd wedi eu trosglwyddo i grwpiau cymunedol dan y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cynnwys Neuadd Bentref Carmel a chyfleusterau cyhoeddus Caerwys.

Ers mis Mai'r llynedd, mae Ysgol Uwchradd Castell a Chyfeillion Llyfrgell Gymunedol yr Hob wedi bod yn rhedeg llyfrgell gymunedol a llyfrgell ysgol yn Llyfrgell yr Hob yn Ysgol Uwchradd Castell.

 Ym mis Mai, bu i Bwll Nofio Cei Connah gael ei drosglwyddo i fenter gymdeithasol Cambrian Aquatics. Mae’r pwll nofio wedi gweithredu yn llwyddiannus ac mae rhaglenni nofio newydd a chynlluniau eraill wedi eu cyflwyno, a’r defnydd wedi bod yn gadarnhaol. 

 

 

Mae Sir y Fflint yn parhau i dorri tir newydd, ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y model darparu amgen diweddaraf, a’r mwyaf uchelgeisiol. Mae’r model darparu amgen yn darparu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, drwy sefydlu cymdeithas mantais gymunedol dan arweiniad y gweithwyr. Bu i’r gweithlu roi sêl bendith ar y cynllun mewn pleidlais, a chafwyd buddugoliaeth ysgubol.

Bu i 92.5% o’r gweithlu hamdden a llyfrgelloedd fwrw eu pleidlais, gyda 90% yn pleidleisio o blaid y cynnig i sefydlu Cymdeithas Mantais Gymunedol ar 1 Gorffennaf 2017. Hon fydd y gymdeithas gyntaf o’i math i redeg gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig. 

Mae'r cynllun busnes yn dangos y gellir gwneud dros £500,000 o arbedion yn y flwyddyn gyntaf i weithrediad y gwasanaeth, tra mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud buddsoddiad cyfalaf o bron i £1 miliwn i wella adeiladau hamdden a llyfrgelloedd, mannau chwarae, caeau artiffisial yn y sir.  

Nod cyffredinol y model yw darparu arbedion o 10% flwyddyn ar ôl blwyddyn tra'n cynnal a gwella lefelau gwasanaeth presennol a diogelu swyddi. Bydd gweithwyr yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y sefydliad. 

Bydd y sefydliad newydd a'r Cyngor yn gweithio'n agored ac yn dryloyw, gyda gwerthoedd cydweithredol, a bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn drwy fwrdd partneriaeth. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: 

“Bydd y sefydliad hwn yn un o'r ychydig sefydliadau dan arweiniad gweithwyr sy’n cynnal gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae lefel y gefnogaeth a ddangoswyd gan weithwyr yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn unigryw. Bydd Cymdeithas Mantais Gymunedol yn gallu dangos gwerth rhoi gweithwyr wrth galon sefydliad a helpu i lunio modelau o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol sy'n dangos sut y gall gwasanaethau sydd mewn perygl gael eu diogelu tra'n cyflawni gofynion ariannol a gwasanaeth a chadw atebolrwydd i’r cyhoedd a'r gweithlu.” 

Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr newydd y sefydliad a arweinir gan weithwyr: 

“Mae pawb wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i gyflawni'r canlyniad hanesyddol hwn, ac rwy'n hynod o falch i gael fy mhenodi i arwain y sefydliad newydd. Rydym yn credu y bydd ein cydweithwyr yn ymateb i'r her. Does neb mewn sefyllfa well na nhw i allu adnabod gwelliannau ac arloesedd o ran darparu gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn canolbwyntio ar ein busnes craidd a'n gweledigaeth sef "Mwy o bobl, Mwy o Feddyliau a Chyrff Egnïol, yn Fwy Aml.” Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair a chyffrous ar gyfer hamdden a llyfrgelloedd yn Sir y Fflint.”

 

 

 

Buddsoddi mewn tai

Mae’r tenantiaid cyntaf wedi symud i mewn i’r tai cyngor newydd ar safle Ysgol Custom House Lane ar Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah.

 

 

 

 

 

Y datblygiad hwn o 12 o dai cyngor yw’r cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o Raglen Tai Strategol ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a’r rhain yw’r tai cyngor cyntaf i’w hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Mae Wates Residential wedi gweithio’n agos gyda’r Cyngor i sicrhau fod y tai wedi eu hadeiladu i safon uchel gyda nodweddion sy'n fodern ac yn effeithlon o ran ynni er mwyn cadw’r costau rhedeg ar lefel y gellir ei rheoli.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;

"Rydw i wrth fy modd gyda’r cynnydd gwych sydd wedi ei wneud ar y safle hwn ers i’r gwaith ddechrau fis Mai 2016. Roeddwn i’n falch iawn o gael cwrdd â rhai o’r tenantiaid newydd wrth iddyn nhw weld eu cartrefi am y tro cyntaf ac roeddwn i hefyd yn falch o glywed y tenantiaid newydd yn sôn am ‘bennod newydd yn eu bywydau’ a pha mor gyffrous oedden nhw i fod yn symud i mewn i’r tai ar ddatblygiad Custom House.

Mae mwy o ddatblygiadau i ddod yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ac mae’r gwaith ar 40 o dai cyngor newydd yng Nghoed-Llai, yr Wyddgrug a Chei Connah yn dechrau gyda hyn.

 

Sylw ar...

Ymestyn y Credyd Cynhwysol

Beth ydy Credyd Cynhwysol?

Mae’r Credyd Cynhwysol wedi bod ar waith yn Sir y Fflint er mis Ebrill 2014, yn rhoi cefnogaeth ariannol i aelwydydd isel eu hincwm y byddent fel arfer wedi bod yn hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith.

O fis Ebrill 2017 ymlaen, mae Credyd Cynhwysol yn cael ei ymestyn i bob hawliwr newydd; fe’i gelwir yn ‘wasanaeth Credyd Cynhwysol llawn’ ac mae’n disodli’r chwe budd-dal canlynol:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith.

Sut gallaf fi hawlio Credyd Cynhwysol?

Mae’r llywodraeth yn disgwyl i bron pawb hawlio a rheoli ei Gredyd Cynhwysol ar-lein.

I hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid ichi agor cyfrif Credyd Cynhwysol i gwblhau’r cais, byddwch chi hefyd yn cadw golwg ar eich hawliad parhaus ar-lein drwy’r cyfrif hwn. Felly, bydd arnoch angen gallu mynd ar-lein yn rheolaidd i sicrhau bod manylion eich amgylchiadau’n ddiweddar a’ch bod yn cael eich talu’n gywir.

Bwriedir i gyfrifon Credyd Cynhwysol weithio’r un fath ar gyfrifiaduron pen desg, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar.

Help gyda’ch rhent

Mae elfen costau tai Credyd Cynhwysol, sy’n disodli Budd-dal Tai i denantiaid, yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi, yn hytrach na’i fod yn cael ei dalu i’ch landlord fel sy’n wir am lawer o hawlwyr Budd-dal Tai ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellir trefnu i elfen rhent ac ôl-ddyledion rhent gael eu talu’n uniongyrchol i’r landlord, dros dro, os yw tenantiaid angen cymorth i ddelio â’u harian, neu os ânt i ôl-ddyledion rhent ar ôl mis neu ddau.

Sut ydych chi’n cael eich Credyd Cynhwysol?

I gael Credyd Cynhwysol bydd arnoch angen cyfrif gyda banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Gallai cyfrifon cardiau Swyddfa’r Post fod yn rhy gyfyngedig ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Help a chefnogaeth ychwanegol dan Gredyd Cynhwysol

Mae’r llywodraeth yn cydnabod y bydd symud i un taliad misol ar gyfer yr aelwyd yn newid mawr i’r ffordd y caiff y rhan fwyaf o fudd-daliadau eu talu ar hyn o bryd ac mae wedi cyflwyno’r cynllun Trefniadau Talu Amgen sy’n cynnig yr help canlynol, dros dro, os gwelir eich bod angen help ychwanegol:

  • Talu elfen tai’r Credyd Cynhwysol fel Taliad a Reolir yn uniongyrchol i’r landlord.
  • Taliadau amlach na thaliadau misol.
  • Talu’r dyfarniad i bartneriaid ar wahân i’r ddau.

Byddwch hefyd yn cael cynnig help personol i ddelio â’ch arian os credir eich bod yn agored i niwed ac angen cyngor ariannol i’ch helpu i drin eich arian bob mis a thalu biliau ar amser.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Credyd Cynhwysol. 

Os oes arnoch angen help neu os oes gennych gwestiynau, gallwch hefyd gysylltu â swyddfeydd lleol Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, a’r Wyddgrug. Gallant gynnig help ar sut i wneud hawliad ar-lein. Cewch ddefnyddio’r cyfrifiaduron yno am ddim.      

Mae rhagor o wybodaeth am swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu ar gael yma. 

 

Cynlluniau tai gofal ychwanegol yn symud ymlaen

Mae’r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer yr henoed yn Y Fflint, sef Llys Raddington, bellach wrthi’n cael ei adeiladu ac yn dod yn ei flaen yn dda.

Mae’r cynllun wedi’i leoli ar gornel Coleshill Street ac Earl Street, gyferbyn â Phafiliwn Jade Jones. Bydd y datblygiad newydd yn agor yng ngwanwyn 2018 gyda 73 rhandy yn cynnig llety un llofft a dwy lofft, a darpariaeth ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.

Tŷ Glas, is-gwmni Grŵp Tai Pennaf, sy’n rheoli datblygiad y cynllun, gydag Anwyl yn gyfrifol am y gwaith adeiladu. Maent wedi cael dros 50 o ymholiadau hyd yma, gan drigolion lleol a darpar denantiaid.

 

Yn Nhreffynnon, mae ein timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai wedi bod yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Tai Wales & West i ganfod safle posibl ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol Treffynnon. 

Yn dilyn ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio, bydd y cynllun yn darparu o leiaf 50 o unedau, gan gynnwys cyfleusterau a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae Cymdeithas Tai Wales & West wrthi’n cynnal gweithgareddau datblygu a chynllunio er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno cais cynllunio amlinellol ddechrau 2017.

Cyn Ysgol Gynradd Perth y Terfyn ar Halkyn Road, Treffynnon, yw’r safle arfaethedig, a'r nod fydd agor yn 2019. Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth i'r cyhoedd yn y dref yn ddiweddar, a fynychwyd gan nifer dda o bobl.

 

 

"Weithiau mae’r cwestiynau’n gymhleth a’r atebion yn syml" Dr. Seuss

Mae Beth Cameron-Lyle wedi bod yn dysgu Saesneg yn Ysgol Alun Yr Wyddgrug ers 13 o flynyddoedd. Y llynedd, ar ôl trafod y mater gyda’r pennaeth Jane Cooper, ymchwiliodd i gyflwyno strategaethau anadlu i rai o’i myfyrwyr TGAU.

Y syniad y tu ôl i hyn oedd eu helpu i reoli anawsterau gyda gorbryder ynghylch eu harholiadau oedd yn agosáu. Roedd pobl ifanc yn siarad am yr heriau oedd yn eu wynebu o ran cysgu, ymlyniad i dechnoleg a straen a phwysau bywyd modern.

Roedd Beth eisiau ymchwilio i sut y gallai’r ysgol gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu dulliau ystyriol er mwyn helpu eu hunain, nid yn unig ar gyfer heddiw na hyd yn oed yfory - ond fel y cam cyntaf tuag ar gynnal llesiant a dysgu strategaethau ymdopi iach.

Dyluniwyd gofod priodol a darparwyd offer priodol fel y gellid dysgu myfyrdod i bobl ifanc. Ac felly crëwyd Y Seibiant.

Mae Ann Roberts, Rheolwraig Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir Y Fflint (FIYP) wedi bod yn gefnogol iawn. Roedd yn deall amcanion a syniadau’r prosiect a meddyliodd am yr enw wrth iddi fynd â’i chi am dro, tra’r oedd yn mwynhau ei Seibiant ei hun. Ac felly cychwynnodd perthynas bositif rhwng FIYP a Seibiant.

Ymgeisiodd Y Seibiant am "Arian i Bawb" gan y Loteri Genedlaethol a derbyniodd grant o £5,000.   Mae FIYP yn parhau i gefnogi’r prosiect ac maent nawr yn cael mynediad i gymorth hyfforddiant staff yn Y Seibiant ac yn gobeithio gwneud cais i gyflogi aelod staff rhan amser yn uned Y Seibiant yn fuan. Maent hefyd wedi ymrwymo i barhau â’u cymorth strategol ac i roi mwy o fynediad i’r grant cymorth ieuenctid.   Mae’r grant wedi talu am hyfforddiant, gwaith celf a chymorth. Mae’r grŵp hefyd yn ddiolchgar am gymorth gan ddau fusnes yn Yr Wyddgrug - bu i Howdens roi cegin a rhoddodd Travis Perkins ddeunyddiau er mwyn gwella a phlastro’r waliau.

Dywedodd Beth:

"Mae ein gofod a’n cyrsiau yn cynnig i bobl ifanc ffyrdd o roi seibiant iddyn nhw eu hunain, cilfach o heddwch, y cyfle i greu llonyddwch ynghanol storm eu diwrnod prysur."

Bu i FIYP gyllido gwaith celf Y Seibiant gan yr artist lleol Wendi Shiel-Williams a weithiodd gyda nifer o’r bobl ifanc ar ddylunio’r logo a chyntedd croesawu’r adeilad. Mae’r hyn arferai fod yn garej, yn Uned Atgyfeirio Disgyblion, ystafell arholiadau, bellach yn fan ble mae pobl ifanc yn gwybod y gallant roi iddyn nhw eu hunain beth sydd ei angen arnynt - hunanofal: amser, gofod, cyfleoedd i ddysgu amdanyn nhw eu hunain - ffisioleg yr ymennydd, ei gysylltiad â’r corff - tueddiad pobl i bendroni a thrychinebu a thueddiad ein meddwl i adrodd stori.

Derbyniodd Y Seibiant gyllid gan FIYP i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol gan ymuno â FIYP yn eu stondin yn y digwyddiad yn Y Fflint ble bu iddynt fwynhau treulio amser gyda theuluoedd, creu jariau llonyddwch a dysgu ffyrdd o fyw gydag emosiynau anodd.

Mae Ysgol Alun wedi ysgrifennu cwrs ‘Dot b’ 8 wythnos Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Cwricwlwm AG Blwyddyn 10. Drwy’r cwrs yma mae myfyrwyr yn cael eu grymuso â gwybodaeth am eu hymennydd, meddyliau, cyrff - ac yn dysgu ffyrdd ymarferol o greu eu hunain a chanfod ffocws.

Ychwanegodd Beth:

"Mae’r adborth cadarnhaol wedi bod yn ysgubol. Bu i ni hefyd wneud cysylltiad ag Ysgol Bryn Coch yn 2016 a dysgu cwrs Paws b Prosiect Ystyriaeth Ofalgar yn yr Ysgol i’r cohort Blwyddyn 6 cyfan - unwaith eto, gan ddysgu plant 11 oed am sut mae ffwythiannau’r ymennydd yn sbarduno ein hymateb i deimlo straen. Dysgodd y plant ynglŷn â defnyddio dulliau tawelu er mwyn galluogi eu hunain i ganolbwyntio, gwneud penderfyniadau da a bod ar eu gorau. Dysgodd y plant am sut mae pob un ohonom yn cael eiliadau gwan - yn union fel Weebles, ond gyda dulliau o ganoli ein hunain gallwn fwynhau pob agwedd o’n bywydau. Ar hyn o bryd rydym yn dysgu’r cwrs hwn i ddosbarthiadau Blwyddyn 6 yn Heol y Mynydd, Bwlce.

Mae’r cyrsiau a ddysgir drwy Y Seibiant yn briodol ar gyfer codi cyrhaeddiad myfyrwyr, meithrin cydnerthedd emosiynol a meddyliol, gwella hunangymhariaeth a thosturi tuag at eraill. Yn wyneb diwylliant sy’n cael ei feddiannu gan gyfryngau cymdeithasol, mae gan bobl ifanc gyfle i fod gyda symlrwydd eu hanadl.

Mae’r grŵp wedi creu ystafell breifat, lai, o fewn Y Seibiant, gydag arian gan FIYP. Bydd hyn yn eu galluogi i weithio mewn sefyllfa un i un, gan ganiatáu i grwpiau cymorth eraill, megis SORTED gynnal sesiynau sy’n gydnaws ag ethos Y Seibiant.

Aeth Beth ymlaen:

"Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau £10,000 o gyllid Bagiau Cymorth Tesco er mwyn creu gofodau ystyrlon awyr agored o gwmpas yr adeilad."

"Yn ychwanegol at hynny, buom yn llwyddiannus yn ein cais am Grant Dathlu’r Loteri Genedlaethol a rydym ar hyn o bryd yn gweithio ag ysgolion cynradd lleol, elusennau a sefydliadau er mwyn cynnig gweithdai a sesiynau blasu."

Mae Y Seibiant yn dechrau cael ei ddefnyddio fel adeilad cymunedol - gan yr athrawes ioga leol Jil Blandford.

"Rwyf yn hyfforddwraig ‘Ymlaciwch Blant’ ardystiedig ac rwyf yn bwriadu cyflwyno’r sesiynau yma’n fuan.

Ar y cyfan, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawn i Y Seibiant ac mae yna lawer mwy i ddod wrth iddynt wneud mwy o gysylltiadau ehangach yn y gymuned. Mae eu tudalen Facebook yn rhannu erthyglau perthnasol, argymhellion a fideos er mwyn cynorthwyo dysgu a’u datblygiad mewn perthynas ag ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod.

 

Newyddion y Cyngor

Maethu Sir y Fflint

Noswaith rhoi Gwybodaeth am Faethu

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth, pam na ddewch draw i noswaith wybodaeth a gynhelir nos Fawrth 7 Chwefror, 7pm yng Ngwesty Springfield ger Treffynnon?

Cewch gyfle i wrando ar storïau gofalwyr a dysgu mwy am sut i fod yn ofalwr maeth. A fyddech cystal ag e-bostio fostering@flintshire.gov.uk i gofrestru er mwyn mynychu.

Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, cynhelir sesiynau gwybodaeth bob mis, ewch i’n gwefan i weld dyddiadau a lleoliadau eraill.

Cyfeillgar i Faethu

Cyngor Sir y Fflint yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill statws "cyfeillgar i faethu" gyda’r Rhwydwaith Maethu, gan gynnig i’w weithwyr hyblygrwydd i gyfuno gweithio a maethu gyda’r Cyngor. Mae’r Cyngor hefyd yn annog mwy o fusnesau lleol i ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg a chefnogol i unrhyw staff sy’n maethu drwy’r Cyngor lleol. 

Mae 64,000 o blant mewn gofal yn y DU ar hyn o bryd, a gyda phlentyn ac arno angen teulu maethu yn dod i mewn i ofal bob 20 munud, mae angen mwy o ofalwyr maeth newydd.

Mae polisi’r statws "cyfeillgar i faethu", a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu, yn annog cyflogwyr i fod yn hyblyg a rhoi amser i ffwrdd i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd drwy’r broses o wneud cais i fod yn ofalwyr maeth. Fe’u hanogir hefyd i gefnogi’r gofalwyr maeth hynny sydd eisoes yn rhoi gofal i blant sy’n derbyn gofal, drwy ddarparu gweithwyr llanw pan fyddant yn dilyn hyfforddiant, yn mynychu paneli a gwrandawiadau ac yn ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.

A allai eich busnes chi fod yn "gyfeillgar i faethu" ac annog eich gweithwyr i faethu? Cysylltwch â fostering@flintshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.

A oes gennych chi’r profiad i helpu plentyn yn Sir y Fflint drwy fod yn ofalwr maeth?

Mae yna lawer o blant lleol sydd angen sefydlogrwydd a sicrwydd i’w helpu i ddilyn y llwybr cywir a ffynnu.

Os oes gennych chi brofiad a sgiliau sy’n eich gwneud yn addas i faethu, hoffem glywed gennych.

A yw eich plant eich hun yn awr yn eu harddegau neu wedi gadael adref, neu a oes gennych chi brofiad o weithio neu wirfoddoli gyda phlant dros 10 oed?

Mae gwasanaeth maethu Sir y Fflint wir angen gofalwyr maeth i blant hŷn nad oes ganddynt blant iau gartref. A allwch chi roi i blentyn arall y cyfle i gael dyfodol positif?

Pam dylech chi faethu gyda’ch cyngor lleol?

Mae maethu gyda’ch Cyngor lleol yn rhoi ichi’r cyfle i helpu plant lleol – gan eu helpu i aros yn eu hardal leol a’u hysgolion lleol.

Mae cefnogaeth a hyfforddiant ar gael ar garreg eich drws ac mae tîm profiadol wrth law i helpu bob cam o’r ffordd. Dewch i ymuno â dros 100 o deuluoedd lleol sydd eisoes yn maethu gyda ni.

Faint o amser mae’n ei gymryd?

Mae dod yn ofalwr maeth yn broses sy’n para oddeutu 12 mis o’r amser pan wnewch eich ymholiadau cyntaf.

Pa gefnogaeth gaf fi?

Byddwn yn rhoi llawer o wybodaeth a hyfforddiant ichi ar sut i ddod yn ofalwr maeth, a chewch lawer o help bob cam o’r ffordd. Mae gan ein tîm lawer o brofiad ac mae rhai ohonynt wedi bod yn ofalwyr maeth eu hunain.

Ydych chi eisiau helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned yn 2017, ond ddim yn siŵr a ydych chi’n gymwys?

Dyma rai o’r pethau y bydd arnoch eu hangen:

  • Ystafell wely sbâr, ddim i’w rhannu
  • Amser sbâr
  • Ffordd o fyw iach ac egnïol
  • Yn gallu cludo plant i’r ysgol ac i weithgareddau
  • Bywyd cartref sefydlog
  • Teulu a ffrindiau cefnogol
  • Oriau gwaith hyblyg, sy’n gyfleus ar gyfer yr ysgol (os ydych yn gweithio)

 

Rydyn ni’n credu bod gan bawb rywbeth gwahanol i’w gynnig. Ai nawr ydy’r amser iawn i chi faethu? Gofynnwch am becyn gwybodaeth heddiw – fostering@flintshire.gov.uk.

Ewch i’n gwefan i ddarllen storïau gofalwyr maeth a chael atebion i’ch cwestiynau.

 

 

Sir Y Fflint Dementia Gyfeillgar

Mae Sir Y Fflint yn parhau i fwrw ymlaen â’i hymrwymiad i bobl â dementia a’u gofalwyr.

Eisoes mae yna chwech o gaffis dementia o gwmpas y sir - Treffynnon, Sealand, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Bwcle a Mostyn ac erbyn hyn mae tair tref yn drefi ‘Dementia Gyfeillgar" - Bwcle, Y Fflint a’r Wyddgrug.

Yn ddiweddar, cynhaliodd dau o’r caffis, yn Sealand a’r Fflint, sesiynau o’r enw "Never Ending Stories" gan RMD Memory Matters, prosiect pontio’r cenedlaethau sy’n defnyddio dychymyg ac atgof ac sy’n gweithio â phobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr a phlant ysgol.

Dywedodd Donna Redgrave o RMD - Memeory Matters, a weithiodd gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Gynradd Sirol Sealand:

"Mae RMD - Memory Matters yn credu y gall y celfyddydau helpu pawb y mae dementia yn effeithio arnynt i fyw yn dda. Gallant hefyd fod yn ffordd o wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod â chymunedau at ei gilydd.

"Mae disgyblion, athrawon a staff ategol o bobl ysgol wedi cwblhau sesiwn "Cyfeillion Dementia" sy’n eu cyflwyno i’r heriau o fyw â dementia. Yn dilyn hyn, gweithiodd grŵp o fyfyrwyr gyda fi ar sesiwn "Never Ending Story".

Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol i bobl â dementia a’u gofalwyr i gymdeithasu.

Yn y cyfarfod diweddar yn Sealand, digwyddodd aduniad bendigedig. Bu i Richard Benyon (ar y chwith), sy’n mynychu’r caffi gyda’i wraig, Gill, gyfarfod â hen ffrind nad oedd wedi ei weld ers 66 o flynyddoedd.

Dywedodd Gill: "Pryd bynnag fo Richard yn siarad am yr hen ddyddiau, mae bob amser yn cyfeirio at ffrind plentyndod o’r enw Peter Sumner, yr oedd yn awchu i gysylltu ag ef unwaith eto. Roedd yn arfer mynd draw i Bee’s Nurseries ar y cwch oedd yn cysylltu Cymru a Lloegr, cyn codi’r pont gerdded, ac roedd Peter yn byw ar Fferm Thornleigh ac roeddent yn mynd i’r ysgol gyda’i gilydd nes eu bod yn un ar ddeg oed. Roeddwn yn rhyfeddu pan gyfarfûm â chwpl arall mewn sesiwn ddiweddar mewn Caffi Dementia a ddywedodd eu bod yn adnabod person o’r enw Peter Summer, felly cysylltais ag ef, a chanfod mai ef oedd y Peter o dan sylw, felly rhoddais wahoddiad iddo ddod yma heddiw, a dyma nhw. Rwyf yn teimlo’n emosiynol iawn bod Richard wedi gallu cyfarfod â hen ffrind ar ôl cymaint o amser, ac mae’r diolch i’r grŵp yma - felly rwy’n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt."

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ac ymgysylltiol, mae Caffis Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor a siarad ag eraill â phroblemau tebyg.

Ac mae mwy o waith wedi’i gynllunio ar gyfer 2017 sy’n cynnwys y canlynol:

  • Creu Cymuned Dementia Gyfeillgar ychwanegol (Hope, Caergwrle a Cymau
  • Agor Caffi’r Cof yng Nghei Connah
  • Cynnal Prosiectau Pontio’r Cenhedloedd yn Yr Wyddgrug a Bwcle
  • Buddsoddi yng Nghartrefi Gofal Sir y Fflint gyda’n Prosiect Ymchwil Sgwrs Greadigol gyda Phrifysgol Bangor
  • Cynnal Prosiect Pontio’r Cenhedloedd yn Ysbyty Gymunedol Glannau Dyfrdwy mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Achredu busnesau yn Yr Wyddgrug, y Fflint a Bwcle â Statws ‘Gweithio ar fod yn Ddementia Gyfeillgar’ yn dilyn cwblhau addunedau a rhoi camau ar waith.
  • Achredu tair adran y Cyngor â’r statws uchod yn dilyn cwblhau addunedau a rhoi camau ar waith.

I gael mwy o wybodaeth am Gaffis Dementia, ffoniwch Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir Y Fflint ar 01352 702655.

Ysgolion yr 21ain Ganrif

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dal yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y gwasanaethau addysg i ddarparu’r cyfleodd gorau posibl i bobl ifanc.

Mae prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif, wedi eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi eu cwblhau ar Gampws Dysgu Treffynnon (Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin) a Glannau Dyfrdwy mewn partneriaeth â Choleg Cambria yng Nghei Connah. Mae’r ddau brosiect wedi eu cwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.

Mae yna ddau brosiect mawr arall ar y gweill dan y rhaglen hon.

Mae contractwr wedi ei ddewis a bydd yn cydweithio efo ni ar raglen foderneiddio yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

Bydd Kier Construction o Wrecsam yn creu bloc Dylunio a Thechnoleg a bloc Technoleg Bwyd a Chelf newydd. Bydd y bloc presennol yn cael ei ddymchwel a bydd adeilad deulawr newydd yn cael ei godi a fydd yn cynnwys adran weinyddol, adrannau Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd a Chelf a Dylunio, ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu ychwanegol, swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell beiriannau. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2017, gyda’r gobaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau ddechrau 2019.

Mae’r Cyngor hefyd wedi gwahodd tendrau gan gontractwyr, drwy fframwaith adeiladu gogledd Cymru, ar gyfer prosiect ym Mhenyffordd. Bydd y cynllun arfaethedig ym Mhenyffordd yn uno’r ysgol sydd ar hyn o bryd ar ddau safle. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan yn 2018, gyda'r adeiladau a’r mannau allanol yn cael eu gorffen fesul cam yn ystod 2019.

Yn ogystal â’r rhaglen hon, mae buddsoddiadau allweddol pellach wedi eu hamlinellu yn Rhaglen Cronfa Gyfalaf y Cyngor. Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Gynradd Glan Aber wedi eu nodi fel y rhai â’r anghenion mwyaf brys, gan fod angen estyn ac ailfodelu’r adeiladau presennol. Mae buddsoddiad gwerth £4.6 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer y gwaith yng Nghastell Alun a bydd Ysgol Gynradd Glan Aber yn elwa ar fuddsoddiad ychydig dan filiwn o bunnau.

Bydd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn cael ei hestyn, gydag uned Celf a Dylunio a Thechnoleg deulawr newydd, a bydd ardaloedd eraill yn cael eu hailfodelu hefyd. Rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19.

Bydd gwaith Ysgol Gynradd Glan Aber, Bagillt, yn cynnwys addasu'r neuadd bresennol i ddarparu dau fan dysgu addas, adeiladu neuadd newydd sy'n addas i nifer y plant ar y gofrestr yn ogystal ag addasiadau bach i dair ystafell ddosbarth. Rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Sut mae’ch lles chi?

Yn rhifyn diwethaf Eich Cyngor ym mis Medi bu i ni egluro sut y daeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus dan ddeddf newydd o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r ddeddf hon yn herio partneriaid y sector cyhoeddus i gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy feddwl mwy am y tymor hir a defnyddio dull gweithio mwy 'cydgsylltiedig' i gyflawni pethau. Y nod genedlaethol yw creu Cymru sydd arnom ni eisiau byw ynddi, heddiw ac yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Sir y Fflint yn canolbwyntio ei egni, ei ymdrechion a’i adnoddau ar rai o’r materion cymdeithasol mwyaf. Mae’r rhain yn cynnwys gwella gwasanaethau mewn perthynas â cham-drin domestig, cadw pobl ifanc mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg, ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well er mwyn darparu cyfleoedd gwell ar gyfer byw'n annibynnol.

Mae gan y Bwrdd bedwar partner statudol, sef:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a cholegau lleol.

Gyda’i gilydd mae’r sefydliadau hyn yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio Cynllun Lles Sir y Fflint.

Er mwyn gweithredu’r cynllun hwn mae’r Bwrdd yn cynnal Asesiad Lles ar gyfer ardal Sir y Fflint, a byddwn yn gofyn am eich barn chi yn ddiweddarach fis Chwefror; felly cadwch olwg ar ein gwefan am wybodaeth ynglŷn â sut a lle i gymryd rhan.

 

Newidiadau i Wasanaethau

Cynllun Peilot Cludiant Cymunedol

 

 

 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio Cynllun Peilot Cludiant Cymunedol ar 6 Chwefror.

Bydd y cynllun peilot yn ardal Higher Kinnerton yn gweithredu ar hyd llwybr ac amserlen benodol a bydd yn galluogi’r preswylwyr i gael mynediad at wasanaethau allweddol yn Brychdyn.

Mae cynlluniau pellach yn cael eu datblygu ledled Sir y Fflint sy’n cysylltu â’r rhwydwaith cludiant craidd gan roi mynediad at waith, cyfleusterau iechyd a gwasanaethau eraill. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu treiglo yn y misoedd nesaf.

Yn ogystal â hynny, bydd gwasanaeth Rhannu Tacsi yn darparu gwasanaeth yn dibynnu ar alw ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn Sir y Fflint.

 

Am fwy o wybodaeth dewch o hyd i ni ar ein gwefan

.

 

Cofrestrwch Nawr

Etholiadau Cyngor Sir y Fflint a Chynghorau Cymuned a Thref – dydd Iau, 4 Mai 2017

Ddydd Iau 4 Mai, bydd etholiadau yn cael eu cynnal ar gyfer Cyngor Sir a Chynghorau Cymuned a Thref Sir y Fflint.

Os nad ydych chi wedi cofrestru’n barod, neu os ydych chi wedi symud tŷ’n ddiweddar, bydd arnoch chi angen cofrestru erbyn dydd Iau 13 Ebrill.

Defnyddiwch eich pleidlais! Mae pleidleisio yn rhoi’r pŵer i chi benderfynu sut y caiff eich cyngor lleol ei redeg. Cewch ddweud eich dweud am gyllideb y Cyngor a sut y caiff ei gwario. Mae’ch pleidlais yn cyfrif a gallwch ddylanwadu ar benderfyniadau lleol ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario yn eich ardal chi - o ffyrdd ac ailgylchu i addysg a gofal cymdeithasol.

Gallwch gofrestru’n gyflym ac yn hawdd ar-lein yn Cofrestru i Bleidleisio.

Os oes arnoch chi angen copi papur o’r ffurflen gofrestru, anfonwch e-bost at vote2017@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 702412.

Bydd yn rhaid i chi nodi’ch dyddiad geni a’ch rhif yswiriant gwladol. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’ch rhif yswiriant gwladol gallwch ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau EM neu 0300 200 3502).

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru i bleidleisio byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy’r post.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy’r post yw dydd Mawrth 18 Ebrill.

Am fwy o wybodaeth ewch i adran etholiadau gwefan Cyngor Sir y Fflint.

Os hoffech chi sefyll yn yr etholiad ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid