Eich Cyngor Chi

Croeso

Neges gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd Aaron Shotton

Yn dilyn yr etholiadau Cyngor Sir diweddar, mae’n destun balchder ac yn fraint fawr i gael fy ail-ethol yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r Cyngor wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf i warchod gwasanaethau cyhoeddus a datblygu cynlluniau newydd er budd cymunedau lleol. Bydd Cabinet newydd y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu, cynnal a datblygu gwasanaethau cymunedol a chyhoeddus lleol er gwaethaf yr heriau ariannol sy’n parhau.

 

Y Cynghorydd Billy Mullin

Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol

Y Cynghorydd Chris Bithell

Aelod Cabinet ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Y Cynghorydd Derek Butler

Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd

Y Cynghorydd Ian Roberts

Aelod Cabinet Addysg

Y Cynghorydd Christine Jones

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Cynghorydd Aaron Shotton

Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Cyllid

Y Cynghorydd Bernie Attridge

Dirprwy Arweinydd y Cyngor Ac Aloed Cabinet Tai

Y Cynghorydd Carolyn Thomas

Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad

Mae Cynllun y Cyngor yn nodi ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau’r trigolion. Mae rhai o’n blaenoriaethau ar gyfer 2017-18 yn cynnwys:

  • ehangu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion anghenus;
  • amddiffyn pobl rhag tlodi, â phwyslais arbennig ar dlodi tanwydd a bwyd;
  • galluogi pobl i fyw’n annibynnol ac yn dda yn eu cartrefi, gan osgoi mynd i’r ysbyty yn ddi-angen;
  • diogelu – cadw pobl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin;
  • gweithio gyda phartneriaid i gynnal twf economaidd a gwella cyfleoedd gwaith;
  • datblygu seilwaith trafnidiaeth y sir i gynnwys system drafnidiaeth 'Metro' integredig. 

Hefyd, ein nod yw parhau â’r gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial; gwella’r amgylchedd naturiol a hybu mynediad i leoedd agored a gwyrdd. Er gwaethaf y llymder ariannol sy’n parhau, byddwn yn parhau yn ymroddedig ac uchelgeisiol fel Cyngor i gyflawni ar ran ein cymunedau lleol.

Amseroedd anodd i ddod ……

Wrth i ni barhau i ymdopi â’r hinsawdd economaidd presennol a’r ffaith bod Sir y Fflint yn gyngor sy’n dal i dderbyn llai o arian o’i gymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru, rydym yn benderfynol o barhau â’n gwaith cynllunio ariannol blaengar ac effeithiol, sydd wedi llwyddo i atal unrhyw fygythiadau i’n gwasanaethau rheng-flaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

Byddwn yn parhau i bwysleisio’r angen i ddiwygio’r fformiwla ar gyfer llywodraeth lleol. Ni all Sir y Fflint barhau fel cyngor sy’n derbyn £17.5M yn llai bob blwyddyn na’r grant cyfartalog i gynghorau Cymru ar sail maint cymharol y boblogaeth.

Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y bydd y "bwlch" rhwng incwm a gwariant ar gyfer 2018/19 yn £11.7M.  Mae ail-fabwysiadu ein Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn gam cyntaf pwysig yn y broses o bennu’r gyllideb flynyddol a bydd y strategaeth hefyd yn ystyried pwysau cenedlaethol, lleol, gweithlu a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chwyddiant.

Bydd unrhyw arbedion yn ychwanegol at yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol mae’r Cyngor wedi eu gwneud dros sawl blwyddyn, gan amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol ar yr un pryd.

Mae angen inni weithio’n galetach nag erioed i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau hanfodol y cyngor yn ystod y cyfnod parhaus hwn o lymder ariannol.  Fel cyngor sy’n derbyn llai o arian nag eraill, rydym yn fwy agored i effaith gostyngiadau sylweddol yn ein cyllidebau blynyddol pan gânt eu cyfuno â’r galw cynyddol ymhlith ein trigolion am wasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol. Credaf fod y cyhoedd yn deall ac yn cefnogi’r realiti bod yn rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar unwaith i wyrdroi effeithiau llymder os ydym am lwyddo i warchod gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae pob un o feysydd gwasanaeth y cyngor yn destun adolygiadau manwl a pharhaus ac rydym yn gofyn i bob un ohonynt ystyried sut gallant ymateb i’r pwysau ariannol hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Does gan y Cyngor ddim llawer o ddewisiadau wrth chwilio am arbedion effeithlonrwydd heb orfod lleihau gwasanaethau i lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth.

Perfformiad cadarn

Mae Sir y Fflint yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel Cyngor sydd yn flaengar wrth chwilio am atebion newydd sydd yn gost-effeithlon, cydnerth a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

Er ein bod yn Gyngor sy’n derbyn llai o arian, mae Sir y Fflint wedi perfformio’n gadarn wrth ddarparu gwasanaethau lleol, gan ragori mewn gwasanaethau allweddol fel addysg, tai a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd ar y brig yng Nghymru o ran sicrhau bod cyfraddau casglu treth y Cyngor yn aros mor uchel â phosibl.

Mae’r rhain yn amseroedd heriol ar gyfer cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Os ydym am ddod drwyddi gan gadw ein gwasanaethau lleol yn un darn, bydd yn rhaid i gynghorau weithio’n agos gyda’r llywodraeth ac rydym yn bwriadu gwneud hynny i ddod o hyd i atebion ar y cyd.

Sylw ar...

Y Cyngor yn anrhydeddu milwyr wrth gefn y lluoedd arfog

Y Cynghorydd Andy Dunbobbin a’r Capten Neil Turnbull yn codi’r baneri gyda Mike Dodd a Pete Fuller (cyn-filwyr sydd bellach yn gweithio i’r Cyngor), Karen Armstrong, Cyngor Sir y Fflint a’r Cynghorydd Bernie Attridge


Fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog Wrth Gefn drwy godi’r faner ar Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug ar 21 Mehefin.

Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr sy'n filwyr wrth gefn yn ei wneud i'r Lluoedd Arfog, ein cymuned, ein sefydliad a'n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn.

Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o'u hamser sbâr i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o'r lluoedd arfog, pe bai eu hangen ar eu gwlad.


Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint :

"Mae ein gweithwyr sy'n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau a gânt o'r lluoedd arfog yr un mor bwysig ac maen nhw'n dod â'r rhain yn ôl i Gyngor Sir y Fflint. Mae pob un o'n milwyr wrth gefn yn rhoi o'u hamser i wasanaethu'r genedl. Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel ac mae'n fraint i ddathlu'r gwaith maen nhw'n ei wneud."

Mae'r Cyngor yn gwbl ymroddedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys milwyr wrth gefn ac yn ddiweddar mae wedi derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae ein Polisi Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog newydd yn nodi sut byddwn yn eu cefnogi os cânt eu galw i wasanaethu.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwobrau efydd, arian ac aur ar gyfer sefydliadau sy’n addo, dangos neu’n hyrwyddo cefnogaeth ar gyfer cymuned amddiffyn a’r lluoedd arfog, ac alinio’u gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog sy’n ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymunedau sifiliad a chymuned y Lluoedd Arfog lleol.

Yn ogystal â hyn, bydd cyn-filwyr a’u teuluoedd ar draws Gogledd Cymru yn cael budd o gefnogaeth ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl derbyn £230,000 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Bydd y dyfarniad yn talu am gyflogi dau Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi ymrwymo i gryfhau darpariaeth Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar draws y rhanbarth drwy sicrhau bod staff sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg a chyda pharch.

Bydd cyfrifoldeb y swyddogion yn cynnwys adolygu polisïau a gweithdrefnau presennol mewn meysydd yn cynnwys Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai.  Bydd swyddogion hefyd yn sicrhau yr ystyrir anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog mewn cynlluniau strategol newydd a newidiadau i’r gwasanaeth sy’n gysylltiedig gyda, er enghraifft y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Bydd swyddogion yn ceisio sefydlu maint a chyflenwad Cymuned Lluoedd Arfog y rhanbarth, a sefydlu llinellau cyfathrebu clir fel y gall gwybodaeth lifo i aelodau’r gymuned yn fwy effeithiol.

Bydd yna ffocws ar hyfforddiant i staff rheng flaen hefyd, i’w galluogi i ddeall a chefnogi anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yn well.

Bydd y wobr yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Wrecsam ar ran y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

Nid AFTA Thought yw diogelu

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint nifer o weithdai diogelu unigryw ar gyfer ei weithwyr. 

Amddiffyn plant ac oedolion yw diogelu ac mae’n cynnwys hyrwyddo iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol, amddiffyn rhag niwed ac esgeulustod, addysg a hyfforddiant a lles cymdeithasol ac economaidd. 

Gyda chefnogaeth Panel Diogelu’r Cyngor, cynhaliwyd pedair sesiwn hanner diwrnod gan AFTA Thought Training, sy’n defnyddio drama yn eu gweithdai. 

Yn y sesiynau teirawr yma, roedd gweithwyr yn gallu cael atebion i gwestiynau fel: 

  • Beth sydd wnelo diogelu â fi? 
  • Beth yw arwyddion a symptomau camdriniaeth? 
  • A oes dyletswydd arnaf i gyfleu fy mhryderon ac, os oes, beth sy'n rhaid i mi ei wneud? 

Dywedodd Chris Callander o AFTA Thought: 

“Rydyn ni’n defnyddio actorion i ddod â phrofiad gwirioneddol plant, oedolion a gweithwyr proffesiynol yn fyw. Mae hynny'n creu profiad o hyfforddiant a fydd yn cael gwared ag unrhyw amheuon ynglŷn â'ch dyletswydd a'ch cyfrifoldebau wrth amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a hyrwyddo eu lles. Ymysg rhai o’r pynciau sy'n cael eu defnyddio yn yr hyfforddiant mae plant, pobl hŷn, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.” 

Dywedodd Eiriolwyr Diogelu Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin ar Cynghorydd Christine Jones: 

“Mae cadw plant ac oedolion yn ddiogel yn fater i bawb. Y Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwasanaeth arweiniol y Cyngor ar gyfer ymdrin ag ymholiadau ynglŷn ag unrhyw bryderon, ond mae dyletswydd ar bawb i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. 

“Mae diogelu’n flaenoriaeth i’r Cyngor ac rydym yn ystyried ein cyfrifoldebau o ddifri'. Mae gennym ni Grŵp Diogelu Corfforaethol sydd wedi datblygu polisi’r Cyngor. Mae’r sesiynau yma’n cael eu darparu yn rhan o’n hymrwymiad i ddiogelu.”

 

Sir y Fflint yn dathlu ennill gwobrau cenedlaethol

Bu Cyngor Sir y Fflint yn enillydd llwyddiannus iawn yng Seremoni Wobrwyo Adeiladu Arbenigrwydd Cymru (AAC), a gynhaliwyd yn y Celtic Manor ddydd Gwener 14 Gorffennaf.

Yn y seremoni, a gyflwynwyd gan Jason Mohammad, dyrannwyd gwobr "Cleient y Flwyddyn" i'r Cyngor ar ôl cael ei enwebu gan ei gontractwr, Wates Residential, yn ogystal ag un arall o’i gontractwyr, Galliford Try, gan dderbyn "Gwobr Gynaliadwyedd" am Gampws Dysgu blaenllaw Treffynnon.

Mae Gwobrau AAC yn fesurydd ar gyfer llwyddiant diwydiant adeiladu Cymru. Ers dechrau'r Gwobrau yn 2006, mae prosiectau a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan wedi darparu buddion i'r gymuned, o gymorth i dros 300 o elusennau, i 1,500 o leoedd mewn ysgolion a chydlynu tua 10,000 o oriau o waith gwirfoddol.

Enwebwyd y Cyngor gan Wates Residential am eu gwaith partneriaeth ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). O’r cychwyn, bu’r ddau’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod dull o weithio ar y cyd ym mhob agwedd o ddylunio a chynllunio'r cynllun, gan hefyd weithio i ymgysylltu â'r gymuned a darparu nifer o fanteision cymunedol i drigolion lleol. Roedd grwpiau gwaith prosiectau'n sicrhau bod dull o weithio’n agos, mewn tîm ar gyfer yr holl weithgarwch adeiladu, masnachol ac ymgysylltu â'r gymuned.

O’r chwith i’r dde - Denise Naylor - Cyngor Sir y Fflint; Dawn Kent - Cyngor Sir y Fflint; Kate Catherall - Cyngor Sir y Fflint; Ian Powers - Wates Residential; Mel Evans - Cyngor Sir y Fflint; y Cynghorydd Bernie Attridge - Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint; Mick Cunningham - Wates Residential; Darren Brimble - Cyngor Sir y Fflint; a Paula Marshall - NEW Homes Ltd


Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

"Y rhaglen SHARP yw’r gyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n gosod meincnod cenedlaethol ar gyfer safon a dylunio. Rydym yn falch iawn o ennill y wobr fawreddog yma, a bod ein rhaglen dai'n cael ei hamlygu fel hyn. Mae nifer o awdurdodau lleol eraill wedi ymweld â ni er mwyn gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ac maen nhw bellach am ddefnyddio’r model arloesol hwn yn eu hardaloedd eu hunain. Diolch i bawb yn Wates am ein henwebu ni. Mae Wates wedi bod yn bartner arbennig ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda nhw i ddarparu tai o safon i drigolion Sir y Fflint."

Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential:

"Hoffai pawb yn Wates Residential longyfarch y Cyngor am ennill y wobr hon, sy’n gydnabyddiaeth haeddiannol o’r gwaith adfywio pwysig mae’n ei wneud ar draws Sir y Fflint. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda’r Cyngor ar y rhaglen SHARP, a fydd yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r diffyg tai sydd yn y sir.

"Mae’r buddsoddiadau sylweddol sy’n rhan o’n gwaith ar y cyd hefyd yn galluogi’r ddau sefydliad i greu nifer o gyfleoedd am waith a hyfforddiant lleol ac, wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, fe fyddwn ni’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau Sir y Fflint."

Galliford Try oedd y contractwr a ddarparodd y Campws Dysgu modern yn Nhreffynnon.


O’r chwith i’r dde – Dean Armstrong - Cydlynydd Systemau Mecanyddol a Thrydanol, Galliford Try; Damian Hughes - Cyngor Sir y Fflint; Robert Bradley - Cyfarwyddwr Rhanbarthol Waterman; Ian Marsh - Rheolwr Gweithrediadau, Galliford Try; Selina Manton - Syrfëwr Meintiau, Galliford Try; Mark Wusthoff - Galliford Try; Joy Woods - Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Galliford Try

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

"O'r cychwyn, roedd Galliford Try’n sicrhau bod cynaliadwyedd yn greiddiol ym mhob agwedd o'r prosiect. Roedd llawer iawn o wastraff ar ôl dymchwel yr hen ysgol uwchradd ond fe ailddefnyddiwyd y gyfran anhygoel o 90% o’r gwastraff dymchwel ar y safle. Ar ben hynny, cafwyd 55 o gyfleoedd am waith a 19 o brentisiaethau yn sgil y prosiect, yn ogystal â nifer o weithgareddau addysgiadol a chymunedol."

Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try yng Ngogledd-orllewin Lloegr:

"Mae Campws Dysgu Treffynnon bellach yn brosiect enghreifftiol, nid yn unig yn rhanbarthol, ond yn genedlaethol hefyd. Mae’r tîm wedi bod yn anhygoel wrth gyflawni mwy na’r targedau a osodwyd ar eu cyfer nhw, ac mae’r gydnabyddiaeth wobrwyol maen nhw wedi'i derbyn gan Adeiladu Arbenigrwydd yn haeddiannol iawn."

Bydd y ddwy wobr yn mynd ymlaen i Wobrau'r DU yn nes ymlaen eleni.
 

Newyddion y Cyngor

Sut mae’r Cyngor yn gweithio

Mae cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu (mae chwech ohonynt), y Cyngor a Phwyllgorau eraill yn agored i’r cyhoedd ac eithrio pan fydd materion cyfrinachol yn cael eu trafod, fel y’u diffinnir yn ôl y gyfraith.

Mae’n rhaid i Gabinet Cyngor Sir y Fflint wneud penderfyniadau sydd yn unol â pholisïau a chyllideb cyffredinol y Cyngor. Os yw’n dymuno gwneud penderfyniad sydd y tu hwnt i’r gyllideb neu’r fframwaith polisi, rhaid cyfeirio’r mater at y Cyngor llawn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau Y Cyngor a Democratiaeth ar ein gwefan.

Gwasanaethu Cymdeithasol

Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint

Yn gynharach eleni, roedd Sir y Fflint yn llwyddiannus yn ei gais i fod yn un o ddim ond saith cyngor yng Nghymru i gymryd rhan yn y cam cyntaf o brofi cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru.

Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3 a 4 oed i rieni sy’n gweithio ac yn darparu uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor a hyd at 9 wythnos o 30 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Cydnabyddir y bydd gofal plant fforddiadwy, hygyrch a hawdd ei gael yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghyfartaledd.

Yn Sir y Fflint bydd y cynllun yn cael ei dreialu o fis Medi 2017 ym Mwcle, Bagillt a Brychdyn, ac mewn rhannau o Aston, Cei Connah (Canolog a Golftyn), Garden City, Greenfield, Shotton Uchaf, Treffynnon (Canolog), Mancot, Queensferry a Sandycroft.

Bydd hyn yn golygu bod modd profi’r cynnig mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel ac isel, ar draws llwybrau teithio i’r gwaith, gan gynnwys teithio y tu allan i Gymru, ac mewn lleoliadau a gynhelir a rhai nas cynhelir. Bydd yn profi y capasiti a’r galw am ofal plant yn ogystal â gweld sut mae’n cyd-fynd â’r Cyfnod Sylfaen a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae rhieni yn gymwys am y gofal plant a ariennir gan y llywodraeth os yw o leiaf un rhiant yn byw yn yr ardaloedd peilot a nodir uchod:

  • os yw’r ddau riant yn gweithio neu’r unig riant yn gweithio mewn teulu un-rhiant;
  • os yw’r holl rieni, neu gyplau sy’n cyd-fyw, yn y cartref yn gweithio ac yn ennill ar gyfartaledd, cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ôl yr un gyfradd â’r cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol;
  • rhaid i rieni hunangyflogedig neu rieni ar gontractau dim oriau fodloni’r meini prawf isafswm cyflog dros gyfnod o dri mis;
  • rhaid i’r plentyn fod yn 3 neu 4 oed. Mae’r cynnig ar gael ar gyfer y tymor ar ôl 3ydd pen-blwydd y plentyn.

I gael rhagor o wybodaeth, darganfod a ydych yn gymwys a gwneud cais, ewch i’n gwefan neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Teuluoedd Sir y Fflint ar 01352 703500 neu ebost: fisf@flintshire.gov.uk.

Bydd meysydd ychwanegol yn cael eu hychwanegu wrth i’r gofal plant ddod ar gael; cadwch olwg ar ein gwefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Os ydych yn ddarparwr gofal plant gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y cysylltiadau uchod neu ffoniwch y tîm, ‘Cynnig Gofal Plant’ ar 01244 545979. 

Llys Raddington

Mae’r gwaith ar Gynllun Gofal Ychwanegol newydd Sir y Fflint, Llys Raddington, yn mynd rhagddo yn dda.

Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen ar Gynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd, gwerth £9.8 miliwn yn y Fflint, sy’n cynnig ffordd o fyw annibynnol i unigolion gyda gofal a chymorth yn ôl yr angen; ac mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar lwyddiannau dau o gynlluniau presennol Sir y Fflint, sef Llys Eleanor yn Shotton a Llys Jasmine yn yr Wyddgrug.

Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Tai Pennaf, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint yn datblygu 73 fflat Gofal Ychwanegol o ansawdd, 1-ystafell wely a 2-ystafell wely, ynghyd â chyfleusterau cymunedol, i’w rhentu ar gyfer unigolion dros 60 oed. Mae’r cynllun yn manteisio ar ei leoliad da yng nghanol tref y Fflint, rhwng Llyfrgell y Fflint a chanolfan hamdden Pafiliwn Jade Jones y Fflint, lle ceir siopau, cyfleusterau, Canolfan Iechyd newydd sbon a chysylltiadau trafnidiaeth lleol ar garreg y drws.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys tîm cymorth ar y safle ar gyfer unigolion sydd ag anghenion gofal a aseswyd; hefyd mae 15 fflat wedi’u cynllunio a’u haddasu’n arbennig ar gyfer pobl hŷn sydd wedi colli eu cof neu sy’n byw â dementia.

Disgwylir y bydd Llys Raddington yn agor fflat ar gyfer ei ddangos i ddarpar-breswylwyr ym mis Tachwedd 2017, cyn cwblhau’r gwaith adeiladu yn y gwanwyn 2018. Comisiynwyd Cynllunydd Mewnol proffesiynol i addurno a dodrefnu’r ardaloedd cymunedol i ansawdd uchel.

Bydd y gwaith o reoli’r tai a’r gwasanaethau cysylltiedig ar y safle yn nwylo Cymdeithas Tai Clwyd Alun, fel asiant rheoli Cymdeithas Tai Tŷ Glas, a bydd Cyngor Sir y Fflint yn cymryd cyfrifoldeb am y gofal cartref ar y safle, ar gyfer tenantiaid ag anghenion wedi’u hasesu.

Os ydych yn credu y byddech yn elwa ar fyw yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington, ffoniwch: 0800 183 5757.

Dylech fod dros 60 oed ac yn byw yn Sir y Fflint (neu bod â chysylltiad lleol cryf) a bod ag angen gofal wedi’i asesu a gofal cymorth. Mae ffurflenni cais ar gael a dylid eu dychwelyd i Tŷ Glas, ynghyd ag unrhyw ddogfennau cysylltiedig erbyn mis Medi 2017.

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw’r lle i fynd am wybodaeth neu gyngor am eich lles – neu os ydych am wybod sut gallwch chi helpu rhywun arall.

Mae eich lles yn golygu mwy na dim ond eich iechyd, ond hefyd pethau fel lle rydych yn byw, pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Does neb yr un fath ac mae lles yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu chi i ddarganfod mwy am y pethau sydd yn bwysig i chi.

Mae ganddyn nhw wybodaeth all eich helpu chi i feddwl am y pethau sy’n bwysig i chi, ac mae ganddyn nhw hefyd wybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal sy’n gallu eich helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os hoffech wybod mwy am sut i ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, cliciwch yma.

Sir y Fflint sy’n Gyfeillgar i Ddementia

Mae gan Sir y Fflint dair tref sy’n Gyfeillgar i Ddementia erbyn hyn – Y Fflint, Bwcle a’r Wyddgrug ac mae’r Grwpiau Llywio Cyfeillgar i Ddementia yn y trefi hyn wedi cynnal eu Gwobrau Busnes yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiadau yn gyfle i ddathlu’r busnesau neu sefydliadau ym mhob tref sydd wedi llwyddo i ennill statws “Gweithio tuag at ddod yn Gyfeillgar i Ddementia”.

Agorwyd y seithfed caffi i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn Saltney ym mis Mawrth drwy bartneriaeth rhwng NEWCIS, mudiad nid-er-elw sy’n helpu gofalwyr yn y gymuned, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chyngor Caer a chymuned a thrigolion Saltney. Mae’r caffi ar agor unwaith y mis, yr ail ddydd Mawrth, rhwng 2 a 4pm yng Nghanolfan Gymunedol Douglas Place, Rhodfa Woodall.

Cafodd y fenter hon ei chreu er mwyn cael gwared ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Gorllewin Sir Gaer a Chaer, gan alluogi pobl sy’n byw gyda Dementia a’u gofalwyr i gael mynediad at gymorth a chyngor ar y cyd.

Agorodd yr wythfed caffi yng Nghei Connah ym mis Ebrill. Mae’r caffi cof hwn ar agor bob dydd Mawrth cyntaf y mis, rhwng 1 a 3pm yng Nghaffi Libbys, Stryd Cable oddi ar Tuscan Way.

Cynhaliodd caffis cof eraill ym Mwcle, Y Fflint, Sealand a’r Wyddgrug brosiect i bontio’r cenedlaethau ar gyfer eu haelodau.

Mae’r prosiect i bontio’r cenedlaethau sy’n cael ei redeg gan RMD - Memory Matters yn cyflwyno “Stori ddi-ddiwedd”, yn defnyddio’r dychymyg ac atgofion ac yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a phlant ysgol.

Dywedodd Donna Redgrave o RMD - Memory Matters:

“Mae RMD – Memory Matters yn credu y gall y celfyddydau fod o help mawr i bawb sy’n cael eu heffeithio gan dementia i fyw’n well. Gall y celfyddydau hefyd fod yn gyfrwng i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod â chymunedau at ei gilydd. Rydym yn cynnig amryw o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chymorth, i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’r gymuned yn ehangach.

“Mae disgyblion, athrawon a staff cymorth yr ysgolion lleol wedi cwblhau sesiwn “Cyfeillion Dementia” sy’n eu cyflwyno i’r heriau sydd ynghlwm wrth fyw gyda dementia.  Yn dilyn hyn, bydd criw o fyfyrwyr yn gweithio gyda fi ar sesiwn “Stori ddi-ddiwedd”.”

Mae Caffis Dementia yn cynnig man diogel, cyfforddus a chefnogol lle gall pobl sydd â dementia a’u gofalwyr ddod i gymdeithasu.

Yn ogystal â chynnig pob math o weithgareddau hwyliog a difyr, mae Caffis Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl sydd â dementia gael gwybodaeth a chyngor a siarad gydag eraill sydd â phroblemau tebyg.

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Luke Pickering-Jones, Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702655.

Cymunedau a Menter

Cyngor yn adeiladu dyfodol drwy fuddsoddiad mawr mewn tai

Mae ceiswyr gwaith lleol wedi cael hwb i’w gyrfa diolch i gwmni datblygu cenedlaethol, Wates Residential, fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o gartrefi newydd sbon drwy’r sir.

Roedd 11 o bobl leol yn rhan o’r cynllun hyfforddi a rhaglen genedlaethol ‘Building Futures’ Wates y llynedd, gan ddathlu’r 1,000fed i gofrestru ar y cwrs hyfforddi dwys am bythefnos.

Recriwtiwyd ymgeiswyr drwy raglen Cymunedau’n Gyntaf a rhaglen Esgyn Llywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf rhag cael eu cyflogi ac sydd wedi bod allan o waith am chwe mis neu fwy.

Cymerodd 12 ymgeisydd arall ran yn y cynllun eleni gyda chefnogaeth lawn gan dîm Cymunedau’n Gyntaf. Cwblhaodd 92% y rhaglen pythefnos ac mae wyth wedi llwyddo i gael hyd i waith.

Cynhelir y rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac roedd yn cynnwys sesiynau sgiliau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed, plymio a gosod teils, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweld gyda Wates Residential a’i bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Hefyd derbyniodd bob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo yn Siambr Cyngor Tref y Fflint.

 

Cyngor treth a threthi busnes – trefniadau casglu llwyddiannus

Mae ffigyrau a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru’n dangos mai Cyngor Sir y Fflint, gyda chymorth trigolion lleol, yw’r Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru o hyd o safbwynt casglu Treth y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2016-17, casglodd y Cyngor 98.1% o Gyngor Treth yn y flwyddyn sy’n llawer uwch na chyfartaledd Cymru, 97.4%. Mae hyn yn gosod Sir y Fflint ar y brig gyda’r perfformiad uchaf ymysg Cynghorau Cymru. Hefyd hwn yw’r lefel casglu uchaf gan Sir y Fflint ac mae hyd yn oed yn adlewyrchu gwelliant o 0.12% o’i gymharu â’r hyn a gasglwyd y llynedd.

Hefyd, er gwaetha’r heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu i reoli gostyngiad mawr yn y grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Ganolog, mae’n dangos ein bod yn dal i weithio gyda thrigolion i’w gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau, cael mynediad i’n gwasanaethau ac yn arbennig, helpu’r rhai sy’n cael trafferth talu.

Mae Sir y Fflint yn cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel Cyngor sydd ag enw da am gasglu trethi lleol. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai aelwydydd yn cael trafferth talu a byddem yn annog unrhyw un sy’n cael trafferthion i gysylltu’n gynnar bob amser â’r Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 er mwyn i ni allu cynnig cymorth ymarferol a chanllawiau ynglŷn â’r ffordd orau i dalu.

Yn ogystal â hyn, yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau casglu trethi busnes. Unwaith eto, cydnabuwyd bod Sir y Fflint yn un o’r awdurdodau lleol mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ar gyfer casglu trethi busnes. Casglwyd 99.1% o’r holl drethi busnes a oedd yn ddyledus ‘o fewn y flwyddyn’.

Mae Ardrethi Annomestig hefyd yn cael eu hadnabod fel Trethi Busnes ac yn dreth eiddo ar eiddo annomestig. Trwy Ardrethi Annomestig mae busnesau ac eraill sy’n defnyddio eiddo annomestig yn cyfrannu tuag at gostau cynnal gwasanaethau’r Cyngor. Codir trethi busnes ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, fel siopau, unedau manwerthu, swyddfeydd, tafarndai, warysau a ffatrïoedd.

Yng Nghymru, caiff yr holl incwm o drethi busnes eu casglu gan bob awdurdod lleol a’u talu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Yna maent yn cael eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn. Mae’r arian yma, ynghyd â refeniw gan dalwyr Treth y Cyngor, a rhai symiau eraill yn cael eu defnyddio i dalu am ein gwasanaethau lleol.

Sir y Fflint wrth galon y rhanbarth

Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous i Gyngor Sir y Fflint.

Lansiwyd Gweledigaeth Dwf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan fanylu ar raglen uchelgeisiol ar gyfer twf economaidd drwy’r rhanbarth erbyn 2035. Gyda ffocws arbennig ar y prif sectorau ynni, gweithgynhyrchu uwch a’r diwydiannau digidol, mae’r Weledigaeth Dwf yn nodi £7.2bn mewn gwerth ychwanegol i’r economi rhanbarthol.

Mae gan Sir y Fflint rôl allweddol i’w chwarae i wireddu’r weledigaeth hon. Fel canolbwynt ar gyfer 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu uwch, mae’r Sir wedi parhau i gryfhau ei sefyllfa economaidd ac mae potensial i dwf pellach sylweddol. I gadarnhau ymhellach rôl Sir y Fflint, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datblygiad Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yng Nglannau Dyfrdwy a fydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu technegau gweithgynhyrchu uwch, arloesedd a sgiliau ar gyfer prif gwmnïau gweithgynhyrchu a BBChau. Bydd yr Athrofa’n gatalydd i dwf a chreu swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi drwy Ogledd Cymru, Pwerdy’r Gogledd ac ymhellach. Mae bellach wedi cyrraedd cam pellach ar gyfer buddsoddiad sector cyhoeddus, a gyda phartneriaeth gyffrous â Phrifysgol Abertawe’n datblygu, mae'n argoeli’n dda y bydd y weledigaeth yn cael ei gwireddu.

Manteisiwyd yn helaeth ar y cyfle yn sgil dynodiad fel Parth Menter. O’r saith parth menter yng Nghymru, mae Glannau Dyfrdwy’n arwain y ffordd. Drwy fanteisio ar ein lleoliad, y diwydiannau allweddol sydd wedi’u sefydlu, a’n henw da, nid oes angen ymgyrch werthu bob amser i sicrhau diddordeb a chanlyniadau. Yn ystod y pum mlynedd ers ei ddynodi mae Parth Menter Glannau Dyfrdwy wedi sicrhau bod 3,460 o swyddi newydd yn cael eu creu a bod 3,445 o swyddi pellach wedi’u diogelu, gyda chyfradd trosiant o 62% o ymholiadau busnes i fuddsoddiad gwirioneddol.

Mae cyhoeddi prosbectws Growth Track 360 i fuddsoddi yn rheilffyrdd y rhanbarth wedi denu cefnogaeth sylweddol gan fusnesau a phartneriaid sector cyhoeddus gan alw am uwchraddio’r isadeiledd rheilffyrdd, rhywbeth sydd ei angen yn fawr. Mae’r prosbectws yn cynnwys rhaglen realistig o gymorth sydd ei angen ar gyfer y rhwydwaith a'r twf economaidd uchelgeisiol y byddai hyn yn helpu i’w sicrhau.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn chwarae rôl galluogi hollbwysig i fanteisio ar y cyfleoedd twf economaidd y tynnwyd sylw atynt, a gydag agwedd gadarnhaol tuag at ddatblygu economaidd a chymorth busnes, mae yno i chi.

Cynhaliwyd digwyddiad busnes diweddaraf Cyngor Sir y Fflint yn Soughton Hall yn ddiweddar.

Cynhaliodd Sir y Fflint mewn Busnes grŵp o uwch arweinwyr busnes a gafodd gyfle i gyfarfod yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes 2017, yn ogystal â gwrando ar Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett a Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter.

Wrth groesawu pawb i’r digwyddiad meddai Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, Barry Jones:

“Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn chwilio am gyfraniadau ac adborth gan arweinwyr busnes. Rydym eisiau cynnal trafodaethau ac ymgynghori. Chi yw cynhyrchwyr economaidd y rhanbarth gwych hwn, yr unig economi trawsffiniol ym Mhrydain gyda gweithgaredd gweithgynhyrchu gwych - mae mwy na 32% o’n cynnyrch domestig gros yn dod o weithgynhyrchu - sy’n llawer uwch nag unman arall yn y wlad. Os bydd cyfarfod heddiw’n llwyddiant, rydym eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn.”

Yna cyflwynodd Clare Budden bedair dogfen strategol sy’n sail i’r Cais datblygu:

  1. Growth Track 360
  2. Dêl Twf Gogledd Cymru 
  3. Cynllun Glannau Dyfrdwy
  4. Prosbectws Twf Mersi a’r Ddyfrdwy o Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy

Aeth Colin Everett ati i siarad yn fanylach ar ddatblygu cais ar gyfer Dêl Twf Gogledd Cymru a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn ystod yr haf. Meddai:

“Mae gennym becyn cadarn o gynlluniau uchelgeisiol yr ydym yn chwilio am gyllid ar eu cyfer gan y ddwy Lywodraeth. Gwasanaethau ac isadeiledd cludiant yw’r allwedd a fydd yn datgloi ein potensial.”

Yn dilyn hyn cafwyd trafodaeth fywiog a arweiniodd at awgrymiadau a syniadau gwych  gan yr arweinwyr busnes. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio gydag ysgolion i ddangos manteision prentisiaethau, gwella cyngor ynglŷn â gyrfaoedd, yr angen am arloesedd a chysylltedd digidol, defnyddio’r afon fel adnodd i gludo dros y môr a phosibiliadau cludiant awyr cynyddol – cynigiwyd nifer fawr o syniadau a chynlluniau a chytunwyd i gydweithio’n agos yn y dyfodol.

Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter:

“Rydym yn wirioneddol werthfawrogi’r mewnbwn gan yr arweinwyr busnes ac mae wedi rhoi persbectif gwahanol i ni ar bethau – yn sicr byddwn yn rhoi sylw iddynt. Gyda’r holl waith cydlynol sy’n cael ei wneud mewn partneriaeth, credaf ein bod yn y sefyllfa orau erioed i gael y buddsoddiad sydd ei angen arnom.”

Prydau ysgol am ddim

Beth am roi’r gorau i dipio anghyfreithlon?


Beth yw tipio anghyfreithlon?

Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff ac mae'n drosedd. Mae’r gweithgaredd hwn yn gallu achosi llygredd difrifol i’n hamgylchedd ac mae’n gallu bod yn beryglus i bobl a bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm. Mae'n dinistrio harddwch ein tir yng Ngogledd Cymru, yn difwyno ein cymdogaethau a gostwng ein safon byw. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon a’r goblygiadau ar ein bywydau a’n lles yn cynyddu bob blwyddyn.

Mae’r costau wedi codi i swm chwe ffigwr i ddelio â’r raddfa uchel o dipio anghyfreithlon yn Sir y Fflint. Mae’r ystadegau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod talu tua £92,000 i ddelio â 900 o achosion a gafodd eu hadrodd yn 2014-2015. Ni ellir caniatáu i hyn barhau. Felly, rydym yn adolygu ein dull o weithio ac rydym yn buddsoddi mewn monitro a mesurau gorfodi i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon yn cael eu riportio, ymchwilir iddynt a byddant yn cael eu herlyn. Rhaid gweithredu fel hyn i sicrhau bod Sir y Fflint yn wyrddach a glanach.

Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd?

Mae ffyrdd y gall pob un ohonom gael gwared ar yr eitemau nad oes arnom eu heisiau. Beth am eu rhoi i REFURBS SIR Y FFLINT sy’n gallu casglu eitemau trydanol a dodrefn y gellir eu hailddefnyddio o garreg eich drws am ddim. Ffoniwch  01352 734111.  Neu, beth am eu hysbysebu ar wefan Freecycle/Freegle. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Taliadau Swmp Gasgliadau

Am hyd at 5 eitem £40 + £5 am bob eitem ychwanegol.

Dyletswydd Gofal Deiliaid Tai

Mae dwy ran o dair o achosion tipio anghyfreithlon yn Sir y Fflint yn dod o aelwydydd lleol. Fel un o drigolion Sir y Fflint, mae dyletswydd gofal arnoch i gael gwared ar eich gwastraff eich hun mewn ffordd gyfrifol. Os deuir o hyd i’ch gwastraff wedi’i adael yn anghyfreithlon, a’ch bod yn gwybod neu ddim yn gwybod hynny, mae'n bosibl i chi gael dirwy hyd at £5,000 neu fynd i’r carchar am hyd at 5 mlynedd. Os ydych yn cyflogi masnachwr i gael gwared ar eich gwastraff, eich cyfrifoldeb chi’n llwyr yw sicrhau eu bod yn gludwyr gwastraff sydd wedi eu cofrestru’n gyfreithlon. Gwiriwch fod eich contractwr yn gweithredu’n gyfreithlon drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, lle gallwch wirio bod eu trwydded wastraff yn ddilys.

Tai Cyngor Newydd yn barod ar gyfer tenantiaid

 Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar y datblygiad tai cyngor newydd yn The Walks, y Fflint. Mae’r datblygiad yn cynnwys 30 o dai cyngor newydd a fydd yn cael eu rheoli gan Dîm Rheoli Tai’r Cyngor.

Bydd y 62 tŷ arall yn cael eu rheoli gan NEW Homes, cwmni tai’r Cyngor. Mae’r Cyngor a NEW Homes yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd ac yn mynd i ddarparu gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau Cyngor ar y cyd ar gyfer y cynllun.

Fe dderbyniodd tenantiaid cyntaf y Cyngor eu goriadau fis Mai, roedd rhai o’r tenantiaid yn byw yn y fflatiau deulawr a ddymchwelwyd i wneud lle ar gyfer y datblygiad newydd yma.

Mae’r datblygiad yn cael ei godi gan Wates Residential a benodwyd gan y Cyngor fel partner datblygu yn 2015.

Bwriedir i’r gwaith gael ei orffen fis Ebrill 2018.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Bernie Attridge:

"Mae cynllun The Walks yn dilyn codi 12 o dai cyngor newydd ar safle hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah, y cynllun tai cyngor cyntaf yn y sir."

Yn ogystal â The Walks, mae gwaith hefyd ar y gweill yng Nghoed-Llai, yr Wyddgrug a Chei Connah i godi 40 tŷ cyngor arall.

Mae gwaith archwilio safle hefyd yn cael ei wneud ar 22 safle arall yn y sir, gyda'r bwriad o godi mwy o dai cyngor. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo cyn bo hir.

 

 

 

 

Atal Hawl i Brynu Tai Cyngor

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo yn ei gais i Lywodraeth Cymru i atal Hawl i Brynu tai cyngor o bob math. 

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae llai o dai Cyngor ar gael i’w rhentu oherwydd eu bod yn cael eu gwerthu drwy Hawl i Brynu, ond mae nifer y bobl sydd angen tai cyngor arnynt wedi parhau i gynyddu. Rhwng 1996 a 2016 gwerthwyd cyfanswm o 1,606 o dai.

Yn 2016, dechreuodd y Cyngor weithredu ei Raglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP) uchelgeisiol i godi 500 o dai cyngor a fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint erbyn 2020.

Drwy atal Hawl i Brynu, mae Sir y Fflint nid yn unig yn cynnal ei stoc bresennol o dai cyngor ond hefyd yn diogelu’r tai newydd hyn i gynnig cymaint o gyfleoedd tai â phosib i bobl leol yn Sir y Fflint. Mae atal yr hawl wedi’i ganiatáu am bum mlynedd.

Os oes angen mwy o wybodaeth am yr uchod arnoch, mae ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint.

Credyd Cynhwysol – Gwasanaeth Cyflawn

Hawliadau Newydd

O fis Ebrill eleni, mae Credyd Cynhwysol yn cael ei ehangu a’i gynnig i fwyafrif yr hawlwyr newydd. "Credyd Cynhwysol – Gwasanaeth Cyflawn" yw hwn ac mae'n disodli’r chwe budd-dal canlynol: Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith. Mae hyn yn golygu os bydd angen i gwsmer hawlio cymorth tuag at dalu eu rhent, na fydd yn cael ei dalu drwy Fudd-dal Tai ond yn hytrach drwy Gredyd Cynhwysol.

Trosglwyddo’n Naturiol

Bydd cwsmer yn trosglwyddo’n naturiol i Gredyd Cynhwysol os bydd newid i amgylchiadau eu hen fudd-daliadau, er enghraifft, os bydd cwsmer yn dod yn gyfrifol am blentyn am y tro cyntaf neu’n rhoi’r gorau i weithio oherwydd salwch.

Sut mae hawlio Credyd Cynhwysol?

Mae’r llywodraeth yn disgwyl i bawb fwy neu lai hawlio a rheoli eu Credyd Cynhwysol ar-lein. I hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i gwsmeriaid greu cyfrif Credyd Cynhwysol i gwblhau eu cais. Byddant hefyd yn rheoli eu hawliad parhaus ar-lein drwy’r cyfrif hwn. Felly bydd angen i gwsmeriaid gael mynediad ar-lein rheolaidd i sicrhau bod eu hamgylchiadau’n gyfredol a’u bod yn cael eu talu’n gywir. Bwriedir i gyfrifon Credyd Cynhwysol weithio yn yr un modd ar gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar. I greu a chynnal cyfrif, bydd angen i gwsmeriaid gael cyfrif e-bost y gellir cael mynediad rheolaidd iddo, cwblhau ffurflen ar-lein gan gofnodi data personol a’r gallu i greu ac uwchlwytho dogfennau fel CVs a thystiolaeth angenrheidiol arall.

Sut mae'n cael ei dalu?

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n wahanol i fudd-daliadau eraill, Caiff ei dalu unwaith y mis fel arfer i fanc/cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd. Os bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei hawlio gan gwpwl yna bydd gan bob partner ei gyfrif ei hun ond byddant yn derbyn un taliad misol.

Costau Tai

Bydd y taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys arian tuag at gostau rhentu a bydd angen i gwsmeriaid drefnu i’w dalu eu hunain trwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog. Ni fydd costau tai, hynny yw rhent, yn gyfarwydd i bob cwsmer, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwybod ble a beth sydd angen iddynt ei wneud i hawlio’r swm cywir. I wneud taliadau tuag at rent, ewch ar-lein.

Trefniadau Talu Eraill

Mae rhai opsiynau talu Credyd Cynhwysol sy’n gallu helpu cwsmeriaid i reoli eu harian, ond ni chaniateir bob cais am drefniadau talu eraill. Mae'n bosibl ystyried trefniadau talu eraill ar unrhyw bwynt tra bydd y cwsmer yn hawlio Credyd Cynhwysol. Os yw’r cwsmer yn gymwys i drefn arall o dalu gellir trefnu bod:

  • Arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’w landlord o’u taliad Credyd Cynhwysol misol;
  • Trefnu taliadau wythnosol neu bob pythefnos yn lle rhai misol - gall hyn helpu cwsmeriaid i beidio â mynd heb arian os yw’r cwsmer yn cael trafferth gwneud i’w harian bara am fis;
  • Rhannu’r taliad yn 2 gyfrif banc yn lle un (cyplau’n unig). Gall hyn helpu cwsmeriaid i reoli eu harian eu hunain os oes ganddynt gyfrifoldebau sy’n wahanol i rai eu partner.

Os bydd gan gwsmer ôl-ddyledion rhent, gall eu landlord wneud cais am ddidyniad trydydd parti’n uniongyrchol o’u taliad Credyd Cynhwysol. Bydd hyn ond yn berthnasol os bydd gan y cwsmer ôl-ddyledion am o leiaf 2 fis gyda’u rhent. Efallai bydd cwsmeriaid eisiau gair â’u landlord a dod i drefniant i osgoi’r didyniadau hyn.

Trin Arian a Chymorth Personol

Gall cwsmeriaid gael help i reoli eu harian bob mis, i dalu eu biliau arlein yn brydlon, gwneud cais am drefniant talu arall a help gydag unrhyw fater arall. Cysylltwch â’r adran budd-daliadau ar 01352 704848 neu e-bostiwch welfarereformsresponse@flintshire.gov.uk .

Help i dalu Treth y Cyngor

Gall cwsmeriaid gael help gan yr adran Budd-daliadau tuag at dreth y cyngor os ydynt ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau yn cynnwys Credyd Cynhwysol. Bydd yr help hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau, incwm eich aelwyd - yn cynnwys cynilon, unrhyw blant neu oedolion eraill sy’n byw yn eich eiddo. Os yw cwsmer yn hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwneud cais yn syth am y cymorth hwn yn hytrach nag aros i’w hawliad gael ei asesu a/neu ei dalu. I wneud cais am Gymorth Treth y Cyngor, ewch i'n gwefan.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am Gredyd Cynhwysol ewch i gov.uk/universalcredit.

Safonau Ansawdd Tai Cymru – Gwelliannau i Le Parcio

Fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar dai Cyngor i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, mae wedi’i nodi bod hefyd angen gwella lle parcio ar gyfer preswylwyr, yn ogystal ag uwchraddio ceginau, ystafelloedd ymolchi a’r tu allan i’r adeiladau. Er nad yw hyn yn ofyniad statudol, roedd y Cyngor yn ei weld fel cyfle i wella’r amgylchoedd, gwella diogelwch y preswylwyr a chyfoethogi ansawdd bywyd y preswylwyr.


Mae’r gwelliannau wedi cael eu cyflawni ar draws y Sir ac wedi cael eu croesawu gan breswylwyr.


Yng adeiladau y Prince of Wales Court yn nhref Bwcle, achubwyd ar y cyfle i ddylunio parcio oddi ar y stryd i’r preswylwyr.  Roedd y gwaith yn cynnwys tynnu rhan o barc chwarae, ond i wneud iawn am golli peth o’r parc cafodd yr ardal chwarae ei hymestyn yn y ffrynt.


Cynt:


 
Mae hyn wedi creu 23 lle parcio wedi eu marcio, gan gynnwys tri i bobl anabl, mewn ardal lle’r oedd ond llefydd parcio heb eu marcio i tua chwe char o’r blaen. I sicrhau diogelwch y preswylwyr a’u heiddo, mae gan y maes parcio hefyd gynllun goleuadau synhwyro symudiad o fore tan nos, yn defnyddio lampau LED solar.


Ac wedyn:

 
 
Mae adeiladau y Prince of Wales Court yn cynnwys wyth bloc o fflatiau gyda 60 o unedau preswyl ac 20 o fodurdai cyngor. Bydd gwelliannau pellach ar du allan a thu mewn i’r blociau hyn yn dechrau yn 2018 gyda’r bwriad o orffen y gwaith cyn terfyn amser y WHQS yn 2020.


 
 

Yn Strand Park, Treffynnon, mae’r tîm a fu’n gweithio ar yr WHQS yn y cul-de-sac wedi nodi bod angen gwella’r parcio i’r preswylwyr ac efallai dylunio digon o le parcio ychwanegol i fodloni’r tenantiaid.

Cynt:


 
Mae’r cynllun wedi golygu colli ychydig o dir glas i greu mwy o le parcio, o tua 16 o lefydd parcio heb eu marcio i 23 o lefydd wedi eu marcio, gan gynnwys dau le anabl. Mae’r gwelliant yn sylweddol fel y gwelir isod:


  
Ym Mrychdyn, nid oedd gan Heron Close unrhyw barcio oddi ar y ffordd a chafwyd cyfle i ail-ddylunio’r ardal i greu hyd at 16 o lefydd parcio.


Gweler y lle parcio gorffenedig isod:


 
Mae ardaloedd eraill yn cael eu hystyried ar gyfer gwella’r parcio – gan gynnwys Moorfields yn Nhreffynnon lle dangosir y gwelliannau parcio sydd mewn golwg mewn coch isod:

 

Safonau Ansawdd Tai Cymru – Manteision i’r Gymuned

Mae’r ardd gymunedol yn ei blodau

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu prosiect i helpu i ddatblygu gerddi cymunedol yn un o’u cynlluniau tai.

Mae’r Tîm Tasgau’n fenter newydd sy’n cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru i rai sy'n hyn na 25 ac sy'n byw mewn clwstwr Cymunedau am Waith. Mae Groundwork Gogledd Cymru’n darparu’r prosiect ynghyd â’u partner, Cymunedau am Waith. 

Mae gardd gymunedol newydd wedi’i dewis yn Pen-y-Llan Courts yng Nghei Connah lle mae’r Cyngor yn uwchraddio’r eiddo yn rhan o’r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn ogystal â gweithio i sicrhau bod yr holl eiddo’n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. 

Mae deg o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect cymunedol sy’n para deg wythnos, gan dreulio deuddydd yr wythnos yn dysgu sgiliau newydd ar gwrs achrededig ar wirfoddoli. 

Maent yn helpu â gwaith plannu a chynnal a chadw’r ardd gymunedol newydd yn Fern/Ivy Court ac maent hefyd yn treulio diwrnod yn ailwampio gardd gymunedol Holly Court. Datblygwyd yr ardd gymunedol hon yn 2009. Mae’r gwirfoddolwyr yn dod yn fwy hyderus â nifer o sgiliau mewn meysydd fel adeiladu, iechyd a diogelwch yn y gwaith a’r amgylchedd. 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: 

“Gobeithiwn y bydd yr ardd gymunedol newydd yn darparu amgylchedd braf i holl drigolion Pen-y-Llan ei fwynhau. Da yw gweld bod y gwirfoddolwyr wedi ennill profiad gwerthfawr a chymhwyster drwy eu gwaith caled. Mae’r ardd wir yn ategu’r holl waith gwella sydd wedi’i wneud yn yr ardal hon yn y blynyddoedd diweddar. Fe hoffwn i gydnabod cymorth hael BAAS hefyd, y contractwr ar y safle, a ddarparodd gasgen ddŵr i gasglu dŵr glaw – cam arall tuag at greu lle sy’n fwy amgylcheddol wyrdd ar gyfer y trigolion.”

Dee Cottages

Diolch o galon i staff Gwasanaethau Tai Cyngor Sir y Fflint ac i A Connolly Ltd a gododd dros £240 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer ym more coffi’r Diwrnod Cacennau Cwpan. Diolch yn arbennig i breswylwyr Dee Cottages a’r cyffiniau am eu rhoddion ac i Louis a Rachael Hughes am eu lliwio ac addurno cacennau bendigedig, ac i Karen am ei chacennau hyfryd.

 

Sgowtiaid yn cael help llaw

 

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith uwchraddio sydd angen ei wneud ar ein stoc dai.  

Mae’r contractwyr yn gweithio ar Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n safon genedlaethol ar gyfer cartrefi a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol.  

Yn ogystal â hynny mae ein contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn amrywiol ffyrdd.  

Mae Mitie, un o’n contractwyr, wedi bod yn cyfranogi wrth ailwampio caban y sgowtiaid lleol yn y Fflint, a agorwyd yn swyddogol yn ddiweddar. 

Fe wnaeth Mitie uwchraddio’r tu allan a oedd wedi’i wneud o goncrid, ac a oedd angen ei drwsio. Fe wnaethant ailwampio tu allan i’r adeilad yn llwyr, drwy ail-blastro a gosod inswleiddio wal allanol, sydd nid yn unig wedi rhoi gweddnewidiad proffesiynol iddo, ond sydd wedi'i wneud yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon o ran ynni. 

Dywedodd Joanna Hughes, Arweinydd Cynorthwyol y Sgowtiaid Cwb: 

“Rydym mor falch o bopeth rydym wedi’i gyflawni, ond ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Mitie, y Clwb Rotari, Willmott Dixon, Cyngor Sir y Fflint a phawb arall sydd wedi cyfranogi - rydym yn diolch i chi i gyd. Mae ein Sgowtiaid Cwb yn haeddu diolch arbennig iawn am aros gyda ni drwy’r cyfnod ailwampio. Rydym yn gobeithio y bydd Grŵp Sgowtiaid 1af y Fflint yn ffynnu ac yn parhau am sawl blwyddyn i ddod. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â mi ar 07919 836463 neu e-bostiwch 1stflintcubs@gmail.com.” 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: 

“Mae safon y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn dda iawn ac yn dangos crefftwaith safonol ar ei orau. Hoffwn ddiolch i Mitie – rydym yn gwerthfawrogi eu hymrwymiad i’n cymunedau lleol ac rwy’n sicr y bydd y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau’n rheolaidd yn hapus iawn gyda’u cyfleusterau gwell. 

“Dyma enghraifft arall o gontractwyr yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn darparu adnoddau gwell i’r gymuned ehangach. Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn ychwanegol at ganolfannau cymunedol eraill sydd wedi’u hailwampio gan ein contractwyr, fel Coppa View ym Mwcle, Chapel Court yng Nghei Connah, Hawksebury ym Mwcle, Llwyn Aled a Llwyn Beuno yn Nhreffynnon a Chanolfan Gymunedol Aston. Mae contract SATC yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu Mantais Gymunedol fel rhan o’u cytundeb.” 

Dywedodd Kenny Rushton, Rheolwr Contractau gyda Mitie: 

“Cafodd Mitie’r contract i uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn 328 o gartrefi fel rhan o gynllun SATC y Cyngor. Rydym yn falch iawn o fod yn fusnes cyfrifol ac yn gwasanaethu'r gymuned ehangach, ac rydym yn falch o fod wedi gallu ailwampio'r gymuned leol hon i helpu i fod o fudd i'r gymuned a gwella'r cyfleusterau sydd ar gael." 

Addysg ac Ieuenctid

Ysgrifennydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol

Bu i Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg Cymru ymweld ag Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah yn ddiweddar.

Roedd hi yno i edrych ar y prosiect “Touching the Sku” a “Chlwb Seren Bach” sydd wedi cael eu cydnabod fel arfer rhagorol gan Estyn yn eu hadroddiad yn 2016.  

Disgyblion Ysgol Bryn Deva yw'r plant cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiect i wella eu lefelau ffitrwydd, eu Cymraeg llafar a’u lefelau cyrhaeddiad academaidd. 

Bu i’r ysgol, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Glyndŵr, sefydlu prosiect o’r enw “Touching the Sky.”. Roedd ffitrwydd y plant iau yn cael eu profi ac wedyn, dros yr 8 mis canlynol, roeddynt yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i baratoi ar gyfer taith gerdded i fyny’r Wyddfa, ac mi wnaethant hynny ar 26 Mai eleni. 

 

Dywedodd Steve Thomas, Arweinydd Addysg Gorfforol Bryn Deva: 

“Fel ysgol rydym eisiau hybu bywyd iach gan gynnwys gweithgareddau corfforol a diet iach, i wella lles cyffredinol ein plant. Hyd yma mae wedi cael effaith bositif iawn ar ein disgyblion.” 

Mae’r ysgol hefyd wedi sefydlu ‘Clwb Seren Bach’ er mwyn gwella perfformiad academaidd a chymdeithasol i ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd yn cael trafferth ymdopi â gosodiad dosbarth llawn.  

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 

“Cafodd Ysgol Bryn Deva ganlyniadau gwych yn eu harolygiad Estyn y llynedd am eu gwaith partneriaeth, gofal, cefnogaeth a chanllaw ac mae astudiaeth achos arfer orau wedi’i gyhoeddi gan Estyn. Mae’r ysgol yn rhan o Astudiaeth Thematig Arfer Orau Estyn ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag argymhellion yn dilyn adroddiad Donaldson, gan arbenigo, fel yn achos Bryn Deva, mewn lles. Rwy’n falch o allu dangos i’r Gweinidog bod un o’n hysgolion yn enghraifft dda o hyrwyddo lles disgyblion fel rhan ganolog o’r cwricwlwm.” 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams:  

“Bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gosod materion iechyd a lles wrth wraidd addysg – rydym eisiau i’n pobl ifanc adael yr ysgol yn unigolion iach hyderus. Mae’r gwaith sydd yn digwydd yma ym Mryn Deva yn wych ac roedd hi'n bleser siarad gyda phlant a staff.”

 

Dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dathlu llwyddiant athrawon a chymhorthwyr dosbarth sydd wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg yn ystod y flwyddyn.  

Mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Beaufort Park, roedd athrawon a chymhorthwyr dosbarth o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar draws y sir yn derbyn gwobrau a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd sy’n gorffen a’i olynydd Claire Homard.  

Meddai Ian Budd: 

“Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig nid yn unig i ddathlu llwyddiant ein gweithlu i wella eu sgiliau iaith Gymraeg ond hefyd i gyfnerthu ymrwymiad cryf Sir y Fflint i’r iaith Gymraeg. Trwy ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.”  

Dywedodd Rhian Roberts, Rheolwr tîm Ymgynghorol y Gymraeg yn Sir y Fflint: 

“Mae hyfforddi staff wedi bod yn uchel ar agenda'r tîm ers sawl blwyddyn ac mae’n parhau’n elfen hanfodol o’n gwaith. Mae’n bwysig iawn fod gan ein gweithlu’r sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwaith priodol i oed a digon heriol i ddisgyblion. Mae athrawon a chymhorthwyr dosbarth hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ddilyn cyrsiau Sabathol Cymraeg a ddarperir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio ar y flaenoriaeth hon i sicrhau y gall Sir y Fflint gwrdd â heriau targed Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgol Penyffordd

Mae contractwr lleol wedi’i ddewis i godi adeilad newydd Ysgol Penyffordd.  

Mae Wynne Construction o Fodelwyddan wedi’i ddewis i godi’r ysgol gynradd newydd hon ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd yr ysgolion babanod ac iau presennol yn cael eu dymchwel a bydd yr ysgol i blant 3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys creu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a chreu mannau gollwng i rieni a gofalwyr. Bydd y cyfleuster yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig i blant oed cynradd. 

Mae’r prosiect ar gam cynnar iawn a bydd cyfleoedd i bob parti â diddordeb ddweud ei ddweud. Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal ar safle Abbotts Lane ar 11 Gorffennaf lle bydd cyfle i’r cyhoedd siarad efo’r contractwyr a’r tîm sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r ysgol newydd hon. 

Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd, stiwdio ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer disgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 (cyfanswm o 315 o ddisgyblion. Bydd y cae a’r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw. 

Nid oes dyddiad eto ar gyfer dechrau'r gwaith ond mae’r contractwr wedi sicrhau na fydd y gwaith yn tarfu’n ormodol ar y dysgwyr na’r gymuned. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi yn ystod y tymor ysgol. 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 

“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint. Bydd yn gyfleuster modern a rhagorol ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach.”  

Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi ein dewis i ymgymryd â gwaith adeiladu’r prosiect newydd cyffrous yma, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, yr ysgol a'r gymuned i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a buddion cymunedol parhaol, gan gynnwys cyflogaeth a hyfforddiant."  

Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd arian cyfatebol yn cael ei geisio ar sail 50:50 gyda Chyngor Sir y Fflint yn darparu 50%. Mae’r prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, a’r cyhoeddiad diweddar y bydd rhaglen foderneiddio yn dechrau yn ddiweddarach eleni yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

Am fwy o wybodaeth ewch i gwefan neu anfonwch e-bost at 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk. Gallwch hefyd ddilyn moderneiddio ysgolion ar twitter @FCCSchoolMod.

 

Llwyddiant ar gyfer myfyrwyr Ysgol Maes Hyfryd

Fe wnaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gefnogi disgyblion o Ysgol Maes Hyfryd yn y Fflint yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn prosiect Menter yr Ifanc.  

Cafodd tîm y prosiect "Tymhorau Hyfryd" eu hariannu'n rhannol gan Gymunedau yn Gyntaf, ac roedd yr ysgol yn llwyddiannus, gan ennill y Cyflwyniad Tîm Gorau yn Rownd Derfynol Menter yr Ifanc Cymru yng Nghaerdydd.  

Fe wnaeth tîm menter o ddeg disgybl chweched dosbarth ddatblygu model busnes i ddarparu cynhyrchion poblogaidd a gwasanaethau am bris rhesymol. Fe wnaed y cyfan gan y myfyrwyr, mae eitemau'n cynnwys cardiau ar gyfer bob achlysur a chrefftau tymhorol ar gyfer digwyddiadau arbennig.  

Mae eu cwsmeriaid yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r ysgol. Eu nod oedd bod yn dîm effeithiol a gweithio’n galed iawn i wneud y gorau y gallent fod. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: 

“Mae hwn yn llwyddiant anhygoel gan y myfyrwyr hyn. Rwy’n falch iawn eu bod wedi ennill y wobr fawreddog hon ond, nid yn unig hynny, rwy’n falch iawn a dylent hwythau hefyd fod yn falch iawn o beth maent wedi’i gyflawni.” 

Dywedodd Beverley Moseley, swyddog gyda Chymunedau yn Gyntaf: 

“Fe wnes i fynd i’r digwyddiad, ac fe roddodd y myfyrwyr gyflwyniad llawn hwyl, a oedd yn rhoi digon o wybodaeth i’r gynulleidfa, a chafwyd llawer o ganmoliaeth gan y beirniaid pan wnaethant ddarparu'r canlyniadau."  

Mae Menter yr Ifanc yn elusen arweiniol y DU sy'n grymuso pobl ifanc i gofleidio eu sgiliau personol a busnes, mae'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc, eu hathrawon a busnesau. Mae ei rhaglenni cyflogadwyedd ymarferol ac addysg ariannol wedi’u cyflwyno i sawl ysgol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint.

Mae myfyrwyr Maes Hyfryd hefyd wedi bod yn cymryd rhan yng Ngwobrau Dug Caeredin ar y lefel Aur am y tro cyntaf.

Mae’r ysgol wedi bod yn darparu Gwobrau Dug Caeredin, ar lefel efydd ac arian, ers blynyddoedd lawer. Ond ym mis Medi'r llynedd, cofrestrodd bedwar myfyriwr ar gyfer y lefel aur a lwyddodd yn ddiweddar i gwblhau eu teithiau antur terfynol ac ymarfer pedwar diwrnod / tair noson. Ym mis Gorffennaf teithiodd y pedwar i Sir Nottingham i gwblhau cwrs preswyl am wythnos gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Pan gadarnheir eu gwobr aur yn y dyfodol agos, nhw fydd y myfyrwyr cyntaf o ysgol anghenion ychwanegol yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru i ennill gwobr aur.

Yn y flwyddyn nesaf, bydd gwahoddiad iddynt dderbyn eu tystysgrif Aur gan aelod o’r teulu brenhinol.

Diolch i’r ysgol am gefnogi Gwobrau Dug Caeredin a dylid hefyd sôn yn arbennig am Glenys Roberts a Mandy Manseri am gefnogi’r holl gyfranogwyr yn yr ysgol a hefyd yn ystod eu holl deithiau antur.

Mae Gwobrau Dug Caeredin wedi bod yn rhedeg am dros 60 mlynedd ac yn adnabyddus fel ‘prif wobrau cyflawni’r byd ar gyfer pobl ifanc’. Mae tair lefel sef efydd, arian ac aur, ac ym mhob lefel mae pedair adran sef sgiliau, gwirfoddoli, corfforol a’r daith antur; ar y lefel aur yn unig mae yna hefyd adran breswyl. 

 

 

Dathlu Ysgolion Iach

Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint. 

Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy’n codi’r ysbryd gan y tîm Ysgolion Iach, sy’n rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am yr ail flwyddyn yn olynol, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd â Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint. Mae’r digwyddiad yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd ar addysg iechyd a chwaraeon.  

Roedd disgyblion o ysgolion ar draws y sir yn bresennol i dderbyn eu gwobrau gan Is-Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham yng nghwmni ei gonsort, Mrs Joan Cunningham, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, Y Cynghorydd Ian Roberts a Phrif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard.  

Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint a Phennaeth Ysgol Cae’r Nant, bawb i’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiad rhagorol gan Gôr Ysgol Croes Atti, arddangosiad sgipio gan Ysgol Gwynedd a chyflwyniad gan Ysgol Gynradd Goffa Wood yn trafod yr hyn mae’n ei olygu i fod yn “Ysgol Iach”, cyflwyniad o’r enw “Playful Futures” gan Ysgol Mynydd Isa a chyflwyniad gan Ysgol Bryn Deva o’r enw “Touching the Sky” a pherfformiad dawns ardderchog gan Ysgol Mountain Lane.  

Cyflwynwyd Gwobrau Chwaraeon Tîm Sir y Fflint gan y Cynghorydd Cunningham, ac fe ddywedodd: 

“Mae heddiw’n amlygu’r gwaith ardderchog sy’n digwydd yn ein hysgolion ar draws y Sir. Mae ystod eang o chwaraeon yn cael eu cynnwys, gan gynnwys rownderi, hoci, pêl-droed, athletau, criced, rygbi a phêl-rwyd. Mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu’r ymrwymiad parhaus i’r Cynllun Ysgolion Iach – da iawn i bawb a gymerodd ran.“ 

Yna, fe gyflwynodd Claire Homard Wobrau Ysgolion Iach i 12 ysgol.  

Gwobrau mwyaf y bore oedd cyflwyniadau Gwobrau Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach. Llwyddodd dwy ysgol, sef Ysgol Gynradd Goffa Wood ac Ysgol Bryn Deva, i gael achrediad a chafodd un ysgol ei hail-achredu ar gyfer 2016/17 – Ysgol Mynydd Isa. 

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Claire Homard:  

“Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae’n rhaid i ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i’w gyflawni! Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i’r Amgylchedd a Diogelwch. 

“Llongyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o’r fath!” 

Yn ogystal â gwobrau Ysgolion Iach, cyflwynwyd gwobrau arbennig, sef Gwobr y Chwaraewr Mwyaf Addawol 2017, i William Norman o Ysgol Mountain Lane ac Evan Withe o Ysgol Owen Jones a Gwobr y Chwaraewraig Mwyaf Addawol i Mayzee Davies o Ysgol Gwynedd. Eleni, cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon Sir y Fflint i Mr Neil Williams am ei gyfraniad a’i ymroddiad i rygbi iau yn Sir y Fflint dros yr 16 mlynedd diwethaf.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts: 

“Mae hwn yn ddigwyddiad dathlu arbennig iawn. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein sir.  

“Mae’r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 15 mlynedd yn Sir y Fflint, ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan ac mor frwdfrydig dros y cynllun ysbrydoledig hwn.” 

Chefn Gwlad

Ymgyrch Cŵn

Cymerwch yr awenau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, trwy roi eich ci ar dennyn.

Mae tîm Warden yr AHNE wedi lansio ymgyrch sy'n annog perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol wrth fynd â'u cŵn am dro yng nghefn gwlad.

Mae mannau poblogaidd fel Parc Gwledig Moel Famau yn gweld mwyfwy o achosion o ddychryn defaid, sy’n drosedd yn ôl y gyfraith ac a allai arwain at ddifa’r ci.

Mae Tom Jones, Warden dan Hyfforddiant, yn egluro ymhellach, "Gyda chynnydd mewn ymosodiadau ar anifeiliaid yn yr wythnosau diweddar, fe hoffem atgoffa ymwelwyr a defnyddwyr cefn gwlad mai tir amaethyddol yw hwn, gyda llawer ohono wedi’i orchuddio â grug ac eithin, sy’n golygu nad yw bob amser yn bosib gweld defaid ac ŵyn."

Mewn cydweithrediad â thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, mae’r AHNE wedi cynhyrchu ffilmiau byr ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi dylunio posteri a thaflenni newydd yn pwysleisio’r negeseuon allweddol.

Dros y mis diwethaf, mae wardeiniaid wedi bod yn crwydro o gwmpas yn siarad â pherchnogion cŵn am yr ymgyrch ac wedi cael ymateb da, ac maent yn parhau i addysgu perchnogion am eu cyfrifoldebau yng nghefn gwlad.

 

Newyddion o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Chi a golygfa. Weithiau dyna'r cwbl yr ydych ei angen ar gyfer diwrnod yn yr awyr agored

Mae Rhaglen 2017 yn cynnwys ystod o ffyrdd i fwynhau tirwedd a threftadaeth hardd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae rhywbeth i'r teulu cyfan.

Lawrlwythwch eich copi o ddolen isod:

 

 

Gwirfoddoli yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol   

Mae gwirfoddoli yn llawn hwyl, yn eich denu i'r awyr agored ac yn dysgu sgiliau newydd sy'n ddefnyddiol ar gyfer eich CV. Ac mae'n golygu eich bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r dirwedd.

Oherwydd nid yw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn digwydd ar ei ben ei hun. Mae angen gwaith parhaus.

Mae'r tasgau ymarferol hyn yn dechrau am 10am ac yn gorffen rhwng 3 a 4pm. Mae angen i chi "wisgo ar gyfer llanast" gydag esgidiau cyfforddus gyda gafael da arnynt. Peidiwch ag anghofio dillad gwrth-ddŵr a phecyn bwyd- a sicrhewch eich bod wedi derbyn brechiad tetanws yn ddiweddar!

Rydym yn darparu hyfforddiant llawn. Os ydych eisiau rhoi cynnig ar weithgaredd i ddechrau, dewch draw i un o'n digwyddiadau – lawrlwythwch gopi o'r Rhaglen Wirfoddoli i gael rhagor o wybodaeth ar:

I gael rhagor o wybodaeth am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ewch i'n gwefan.

 

Dilynwch ni ar ... ..

 clwydianrangeanddeevalley

 @Clwyd_Dee_AONB

 

Ceidwaid Ifanc yn gofalu am gefn gwlad

Eleni mae pobl ifanc leol wedi cyfrannu’n frwdrydig tuag at waith cadwraeth ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy drwy ddau grŵp o ‘Geidwaid fanc’ sydd wedi’u sefydlu yn yr ardal.

Mae ymuno â’r Ceidwaid Ifanc yn berffaith ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau dysgu mwy am y dirwedd anhygoel sydd ar eu rhiniog ac sy’n barod i faeddu eu dwylo’n gweithio ac yn ymchwilio yn yr awyr agored. Bydd y Ceidwaid Ifanc yn cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth ac arolygon bywyd gwyllt, yn ymweld â chaerau hynafol ac yn mwynhau’r gweithgareddau hamdden sydd ar gael i ni yn lleol.

Mae Grŵp Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd wedi’i leoli ym Moel Famau a Pharc Gwledig Loggerheads, ac mae ar agor i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed. Sefydlwyd y grŵp hwn yn 2012 ac mae rhai cyn-geidwaid wedi dal ati i wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad fel oedolion, gydag un bellach yn aelod o staff.

Sefydlwyd Grŵp Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae’r grŵp hwn, sydd ar agor i bobl ifanc 11-16 oed, wedi ymgymryd â nifer fawr o weithgareddau ochr yn ochr â rhai o’n sefydliadau partner gan ddysgu ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith sy’n digwydd yn y Dyffryn.

Ceidwaid Ifanc yn helpu’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd gyda gwaith tocio ym Masn Angori Llangollen. Fel diolch am hyn cafodd y bobl ifanc bnawn o ganŵio ar y gamlas!

 

 

 

 

Treuliwyd bore oer dros ben yn helpu gwirfoddolwyr Rheilffordd Treftadaeth Llangollen i glirio llystyfiant oddi ar argloddiau’r rheilffordd er mwyn i deithwyr gael mwynhau’r olygfa hardd o Afon Dyfrdwy o'r trên. Yn y prynhawn, fel diolch am eu gwaith, cawsant daith o amgylch siediau’r rheilffordd yn Llangollen yng nghwmni Bob Jacques, un o’r gwirfoddolwyr sy’n cadw’r rheilffordd i fynd.

 

 

 

Mae’r Ceidwaid Ifanc wedi gweithio yng Nghoed Pen y Pigyn ger Corwen sy’n cael ei rheoli gennym ni mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae eu gwaith yn cynnwys tynnu rhywogaethau o goed ymledol a thorri coed eraill er mwyn adfer cyflwr y goedwig. Maen nhw hefyd yn ymarfer eu sgiliau goroesi yn yr awyr agored ac yn cael cyfle i archwilio’r ardal.

  

Meddai Ros Stockdale, Swyddog Partneriaethau Cymunedol yr AHNE yn Nyffryn Dyfrdwy: "Mae’n wych bod pobl ifanc yn dod allan i’r wlad yn ennill sgiliau newydd ac i ddysgu mwy am yr ardal maen nhw’n byw ynddi. Mae gynnon ni amrywiaeth dda o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer yr haf pan wnawn ni gyda gobaith ddod ar draws y bywyd gwyllt anhygoel sy’n byw yma."

 

 

Wyddech chi fod dros 250 o wahanol rywogaethau o wenyn yn y DU! Oddeutu 225 o wenyn unigol, 24 cacwn, a dim ond un rhywogaeth o wenyn mêl.  Yr wythnos ddiwethaf cafodd grwpiau Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddiwrnod gwych yng Nghoed Nercwys gyda'n Swyddog Partneriaeth, sydd wedi'i gyflogi gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dysgu am wenyn a pheillwyr eraill.

Gyda rhwydi a syllwyr pryfed, aeth y Ceidwaid Ifanc o amgylch yr Hen Dir Caeedig yn dal ac adnabod peillwyr ac yn chwilio o dan y creigiau i weld pa greaduriaid eraill oedd yn cuddio yno!

Ar ôl cinio, bu'n rhaid i ni wisgo gwisgoedd arbennig i ymweld â chwch gwenyn mêl lleol, y tu allan i Goed Nercwys.  Yma cafodd y Ceidwaid Ifanc gyfle i ddysgu am bwysigrwydd cadw gwenyn, ymddygiad gwenyn yn eu cwch ac awgrymiadau ynglŷn â chadw gwenyn.

Gan gyfarfod unwaith y mis, mae grwpiau Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn berffaith ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed sydd eisiau dysgu mwy am y dirwedd anhygoel sydd ar eu stepen drws, gan gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth, arolygu bywyd gwyllt, ymweld â bryngaerau hynafol a mwynhau gweithgareddau hamdden llawn hwyl yn yr ardal megis canŵio ar gamlas Llangollen neu feicio o amgylch Coed Llandegla!

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Grwpiau Ceidwaid Ifanc, cysylltwch â: -

Grŵp Bryniau Clwyd: Vicky Knight, 01824 712747, vicky.knight@denbighshire.gov.uk

Grŵp Dyffryn Dyfrdwy: Ros Stockdale, 01824 712794, ros.stockdale@denbighshire.gov.uk

 

 

Diogelu’r Cyhoedd

Diogelwch Bwyd - sut i gynnal barbeciw diogel

Mae ein tîm Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd eisiau i chi fod yn ddiogel wrth gynnal barbeciw'r haf hwn.

Os ydych chi eisiau cynnal barbeciw gwych sy'n cadw eich teulu a'ch cyfeillion yn ddiogel, dilynwch y camau syml isod i osgoi gwenwyn bwyd.

 

Coginio ymlaen llaw - Ystyriwch goginio cyw iâr a phorc yn y popty cyn ei orffen ar y barbeciw lle bo modd. Bydd eich teulu a'ch cyfeillion yn profi blas hyfryd y barbeciw - ac fe fyddwch chi'n sicr eich bod wedi coginio'r cyw iâr yn drylwyr. Gellir defnyddio'r dechneg hon ar gyfer selsig, byrgers a chebab os ydych chi'n coginio ar gyfer niferoedd mawr.

Peidiwch â bwyta byrgers heb eu coginio'n llwyr. Gall byrgers sydd heb eu coginio'n llwyr gynnwys bacteria niweidiol, megis E.coli. Nid yw bygers fel stêc neu ddarnau cyfan o gig eidion neu gig oen; bydd bacteria niweidiol o wyneb y cig amrwd yn mynd drwy'r byrger cyfan pan gaiff y briwgig ei wneud. Ni fydd y bacteria ar y tu mewn yn cael ei ladd os nad yw holl rannau'r byrger yn cael ei goginio'n drylwyr. Ni ddylid gweini byrgers yn amrwd neu'n binc os ydynt yn cael eu paratoi gartref; dylid eu coginio'n drylwyr nes eu bod yn boeth drwyddynt.

Nid yw golosgi yn golygu eu bod wedi'u coginio  -  Nid yw golosgi ar y tu allan yn golygu bod cig wedi'i goginio ar y tu mewn. Torrwch eich byrgers, selsig a chyw iâr yn agored i weld os ydynt wedi'u coginio drwyddynt. Bydd troi'r cig yn rheolaidd a'i symud ar y barbeciw yn gymorth i'w goginio'n gyfartal. Os oes amheuon gennych, daliwch i'w goginio. Cofiwch fod y rhan fwyaf o'r mathau o gig yn ddiogel i'w bwyta pan:

  • Fo'r cig yn boeth drwyddo;
  • nad oes cig pinc i'w weld pan fyddwch yn ei dorri yn y rhan mwyaf trwchus;
  • bod y sudd yn rhedeg yn glir. 

Mae Barbeciw untro yn cymryd mwy o amser i gynhesu ac i goginio bwyd. Peidiwch â gorlwytho'r barbeciw a gwiriwch fod y cig wedi'i goginio drwyddo.

Pan fyddwch chi'n coginio y rhan fwyaf o fathau o gig ar farbeciw, megis cyw iâr, porc, byrgers neu selsig, sicrhewch:

  • Bod y glo yn goch gydag arwyneb llwyd cyn i chi ddechrau coginio, mae hyn yn golygu eu bod yn ddigon poeth;
  • bod cig sydd wedi rhewi wedi dadmer yn llwyr cyn i chi ei goginio; 
  • eich bod yn troi'r cig yn rheolaidd a'i symud o amgylch y barbeciw i'w goginio'n drylwyr. 

Osgoi croeshalogi -  dylid storio cig amrwd ar wahân cyn coginio. Defnyddiwch wahanol declynnau, platiau a byrddau torri ar gyfer bwyd amrwd a bwyd sydd wedi'i goginio. Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth a'u sychu cyn ac ar ôl trin bwyd.

Cadwch blatiau a chyllyll a ffyrc oddi wrth y cig a'r pysgod amrwd a pheidiwch ag ailddefnyddio saws sydd wedi'i ddefnyddio ar gig amrwd, oni bai eich bod yn ei goginio'n drylwyr gyntaf. Dim ond afiechydon y byddwch yn ei weini gyda'r blas ychwanegol i'ch gwesteion! 

Cadw bwydydd oer o dan 5°C a bwydydd poeth yn uwch na 63°C a pheidiwch â gadael bwyd y dylid ei storio yn yr oergell yn y gwres, cyn ei weini.

I gael canllaw manwl o fwyd diogel dros yr haf ewch i food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru.  

Prosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach

Gall y prosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach (HHHP) roi cymorth a chyngor am ddim i bobl leol sy’n cael trafferth talu eu biliau ynni, gwresogi eu cartrefi neu sy’n byw mewn cartrefi anniogel yn Sir y Fflint.

 “Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref diogel, cynnes lle nad oes raid iddynt wynebu perygl i fyw, tyfu, chwarae a gweithio ynddynt”.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru a staff rheng flaen fel ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth a staff eraill i dargedu tenantiaid bregus sy’n byw mewn tai rhent preifat a pherchen-feddianwyr. Medrant dderbyn atgyfeiriadau gan y cyhoedd, y teulu, cymdogion, gofalwyr, y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd a chan weithwyr elusennau.

Edrychir ar ddull person-ganolog o roi sylw i anghenion y bobl hyn, er mwyn gwella iechyd a lles, drwy greu cartrefi sy’n ddiogel, cynnes a di-berygl lle gall pawb fyw, chwarae, tyfu a gweithio ynddynt. Canlyniadau posib yn dilyn ymweliad gan HHHP:

  • Ymweliadau i Sgorio Tai, Iechyd a Diogelwch – gan leihau 29 o beryglon yn y cartref a sicrhau bod pob eiddo rhent yn ddiogel, di-berygl a chynnes;
  • Cymorth tenantiaeth;
  • Ymweliadau diogelwch tân;
  • Gall cyngor ar fudd-daliadau / dyledion wella incwm;
  • Cyngor Diogelwch Cartref gan yr heddlu / warden cymdogaeth;
  • Gwelliannau arbed ynni – cyfrannu at leihau’r risg o dlodi tanwydd o ganlyniad i ddyledion tanwydd neu o ddatgysylltu’r cyflenwad nwy a thrydan, gwneud tai’n fwy ynni effeithlon a lleihau ôl-troed carbon tai;
  • Gwelliannau cartref – Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, addasiadau a chymorth ariannol i gyflawni gwaith brys;
  • Cyngor iechyd / atgyfeiriadau er mwyn gwella canlyniadau iechyd ac annog pobl i newid eu hymddygiad.

Mae tair rhan i bob ymweliad:

  1. Adnabod unrhyw breswylwyr bregus sy’n byw mewn eiddo lle mae angen cymorth i wneud gwelliannau arnynt, gan gynnwys gwresogi, drwy grantiau neu gymorth gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd.
  2. Gweld a oes angen cymorth arall arnynt i leihau eu biliau tanwydd, tynnu pobl allan o ddyledion biliau ynni neu eu helpu i ddefnyddio eu system wresogi’n well.
  3. Edrych ar ba gymorth arall y gallai fod ei angen arnynt, fel cymorth tenantiaeth, dyledion, iechyd a lles, iechyd meddwl ac unrhyw wasanaeth arall a allai eu helpu.

Cysylltu â ni

Am fwy o fanylion neu i drefnu ymweliad cartref, ffoniwch: 01352 703440 neu e-bostiwch healthyhomesHP@flintshire.gov.uk

Rhaid i bob eiddo rhent preifat yng Nghymru gael eu trwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru a rhaid i bawb sy’n rhan o reoli eiddo rhent neu eiddo ar osod gael trwydded - am fwy o fanylion neu i gael gwybod mwy ewch i: rhentudoeth.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 133344

Mae sgamio’n drosedd

Mae’r adran Safonau Masnach yn derbyn adroddiadau rheolaidd am bobl yn cael eu sgamio. Yn anffodus mae sgamio’n gyffredin iawn ac yn gallu digwydd:

  • Dros y ffôn;
  • Ar-lein drwy e-byst neu ar wefannau sgamio; a
  • Drwy’r post.

Byddem hefyd yn hoffi atgoffa preswylwyr y dylent bob amser adrodd sgamiau i dîm Ymchwilio Safonau Masnach Sir y Fflint drwy ffonio 03454 040506.

Sgamiau dros y ffôn

Mae sgamio dros y ffôn yn boblogaidd iawn oherwydd mae’n haws na bod wyneb yn wyneb â rhywun.

Mae’r sgamiau hyn yn cynnwys hawliadau PPI lle mae’r galwr yn dweud bod gennych hawliad PPI dilys ac y medrant wneud y gwaith papur i chi. Ond yr hyn na chewch wybod ganddynt yw faint o arian y byddant yn ei gymryd o’ch hawliad llwyddiannus ac y gallech ei wneud i gyd eich hun am ddim.

Sgam poblogaidd arall yw trwsio cyfrifiaduron, yn aml yn defnyddio enw adnabyddus fel ‘Windows’ neu ‘Microsoft’. Gallai’r person ddweud bod gennych feirws ar eich cyfrifiadur a bod angen ei ddatrys ar frys drwy fynd i mewn i’ch cyfrifiadur ‘o bell’. Maen nhw hefyd yn gofyn am eich manylion banc.

Y ffordd orau i amddiffyn eich hun yw drwy ddweud ‘na’ a gorffen yr alwad. Os yw’n rhywbeth o ddiddordeb i chi, peidiwch â chytuno i ddim byd a chael eich rhuthro i wneud penderfyniad yn syth. Gallwch bob amser ffonio’r Safonau Masnach am gyngor.

Peidiwch byth â rhoi caniatâd i rywun fynd i mewn i’ch cyfrifiadur, gallai’r galwr ‘heintio’ eich cyfrifiadur gyda feirws neu ysbïwedd. Pe bai’n digwydd, byddai eich gwybodaeth bersonol gan gynnwys eich cyfrineiriau, gwybodaeth ariannol, dogfennau a’ch lluniau i gyd yn y fantol. Os credwch y gallai fod risg i’ch cyfrifiadur, dylech brynu pecyn meddalwedd gwrth-feirws da neu fynd â’ch cyfrifiadur at rywun dibynadwy a gofyn iddynt gael golwg arno. Peidiwch byth ag ymddiried mewn rhywun dieithr dros y ffôn.

Sgamiau ar-lein

Mae e-byst yn honni eu bod gan eich banc neu gan HMRC, er enghraifft, yn gyffredin iawn. Cogio bach bod yn gwmni cyfreithlon y maen nhw. Yn aml iawn bydd dolen yn yr e-bost yn cynnwys feirws fydd yn heintio eich cyfrifiadur gydag ysbïwedd pe baech yn ei agor.

Mae gwefannau sgamio’n cogio bach bod yn wefan go iawn i geisio eich twyllo. Ond yn aml iawn mae newid bach yn y cyfeiriad gwe sy’n mynd â chi i’r wefan sgamio. Byddwch yn ofalus ar-lein, cofiwch gadarnhau eich bod ar y wefan go iawn – dylech chwilio am y symbol clo - ac mae rhai gwefannau hefyd yn gweithredu o dan "https".

Sgamiau drwy’r post

Gallai’r rhain gynnwys taflenni drwy’r post yn cynnig eitemau wedi eu gorbrisio, gyda hyd yn oed ‘raffl’ i gryfhau’r twyll. Mae eraill yn cynnwys gwobrau loteri tramor, darlleniadau seicig a llawer mwy.

Ond mae un peth yn gyffredin iddynt, maent i gyd yn sgamiau a phob un eisiau eich manylion banc. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda’i gilydd; nid cyd-ddigwyddiad yw derbyn llythyr yn dweud eich bod wedi ennill gwobr fydd yn newid eich bywyd, wedyn llythyr gan ‘seicig’ yn dweud y byddwch yn ennill arian mawr. Maen nhw’n ceisio eich hudo i lenwi’r slip er mwyn anfon eich manylion banc atynt. Mae’n debyg y cewch wybod bod eich arian yn cael ei gadw fan hyn fan draw a bod angen talu trethi neu daliadau gweinyddol. Dim ond i’ch twyllo allan o fwy o arian. Ni fydd byth angen i chi dalu ceiniog i hawlio gwobr gyfreithlon.

I amddiffyn eich hun, cofiwch adrodd llythyrau sgâm i’r Safonau Masnach a’u rhwygo’n ddarnau wedyn. Mae llythyrau sgâm yn broblem enfawr yn y DU ac mae camau’n cael eu cymryd i geisio ei datrys, ond mae’n broses araf iawn.

Yn y cyfamser, mae’r tîm Safonau Masnach eisiau lleihau’r siawns y bydd pobl yn cael eu twyllo gan sgamiau. Felly’r rheol yw, os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.

Os na wnaethoch roi cynnig ar gystadleuaeth, sut allwch chi ennill? Peidiwch byth â rhoi eich gwybodaeth bersonol nac ariannol i neb, bydd sgamwyr yn ei ddefnyddio i’ch twyllo gan ddwyn eich ID ac arian yr ydych wedi gweithio’n galed i’w ennill.

Cofiwch adrodd sgamiau i’r Safonau Masnach bob tro, byddwn yn siŵr o wrando a gallwn rybuddio eraill ar dudalen Facebook Safonau Masnach Sir y Fflint ac ar ein tudalen Twitter @FlintshireTS. Drwy adrodd pob sgâm, rydych yn ein helpu i atal twyll yn y dyfodol. P’un ai y cawsoch brofiad o sgamio dros y ffôn, ar stepan eich drws, ar-lein neu drwy’r post, cofiwch ei adrodd, mae sgamio’n drosedd.

Gwasanaethau Stryd

Teithio Llesol

Mae’r ymgynghori cyhoeddus wedi dechrau ar Raglen a Map Rhwydwaith Integredig Cyngor Sir y Fflint sy’n weledigaeth 15 mlynedd i wella seilwaith ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar draws y Sir. Mae’r Map Rhwydwaith Integredig wedi’i greu fel y gallwn gwrdd â’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Teithio Llesol a basiwyd gan y Cynulliad ym mis Hydref 2013. Nod y Ddeddf yw annog pobl i gerdded neu feicio unrhyw siwrne fer i gyrraedd eu gwaith, sefydliad addysgol, gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden, neu wasanaethau eraill, er mwyn gwneud Cymru yn y pen draw’n wlad o gerddwyr a beicwyr.  Am fwy o wybodaeth am y Ddeddf Teithio Llesol cliciwch yma.


Mae’r ymgynghoriad, sy’n rhedeg o’r 3 Gorffennaf tan 24 Medi 2017, yn gyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud am y cynigion ar y Map Rhwydwaith Integredig. Gallwch ymateb i gynigion yr ymgynghoriad drwy e-bostio active.travel@flintshire.gov.uk.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad gyda golwg ar ddiwygio’r cynigion ar y Map lle credwn fod hynny’n briodol.

Bydd Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi a bydd y Map Rhwydwaith Integredig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo erbyn 3 Tachwedd 2017.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad cliciwch ar logo.

Sesiynau Galw Heibio yr Ymgynghoriad Cyhoeddus

Trefnwyd sesiynau ‘galw heibio’ ar gyfer y cyhoedd yn y mannau canlynol i roi cyfle i breswylwyr Sir y Fflint gyfarfod â Swyddogion y Cyngor i drafod y mapiau neu unrhyw agwedd arall ar Deithio Llesol.

 Lleoliad

 Dyddiad

 Amser

Swyddfeydd Cysylltu Treffynnon

Dydd Iau, 3 Awst

 12:00 - 17:00

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Dydd Mawrth, 8 Awst

 14:00 - 19:00

Pafiliwn y Fflint

Dydd Mawrth, 5 Medi

 14:00 - 19:00

Teithio cymuned

Yn gynharach eleni cyflwynodd Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Cymuned Higher Kinnerton wasanaeth trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy ar gyfer yr ardal. Dyma’r cyntaf o’i fath yn y Sir ac mae’n rhan o brosiect Teithio Cymunedol Sir y Fflint.


Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi newydd ar 6 Chwefror 2017 gan gynnig llwybrau bws ac amserlen sefydlog fel bod preswylwyr Higher Kinnerton yn gallu cysylltu a chyrraedd gwasanaethau allweddol ym Mrychdyn.

Cyn bo hir bydd cynlluniau’n rhedeg o Benyffordd i Fwcle ac o Northop Hall i Gei Cona. Bydd y rhain yn gweithredu’r un ffordd â’r gwasanaeth yn Higher Kinnerton.

Mae gwasanaeth Rhannu Tacsi hefyd yn cael ei gyflwyno i weithredu fel gwasanaeth ‘o ddrws i ddrws’ i bobl na fedrant gyrraedd neu ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus arferol yn Ne-Ddwyrain Sir y Fflint.  Drwy’r gwasanaeth Rhannu Tacsi, bydd pobl yn gallu mynychu apwyntiadau iechyd / meddygol neu gysylltu â’r gwasanaeth Bws Tacsi.

 

Ymgyrch yfed a gyrru Haf 2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch Yfed / Cymryd Cyffuriau a Gyrru Cymru gyfan a hoffent amlygu’r neges bwysig iawn hon. 

Mae pob Heddlu yng Nghymru yn ymuno â’i gilydd am ymgyrch haf yn targedu pobl sy’n Yfed / Cymryd Cyffuriau a gyrru.  

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r temtasiwn i yfed a gyrru hyd yn oed yn fwy gan fod pobl yn aml yn cael eu temtio i gael ychydig o ddiodydd a chymdeithasu gyda ffrindiau, heb feddwl am y peryglon o fynd tu ôl yr olwyn.  

Mae cyffuriau hefyd yn effeithio ar y ffordd rydych yn meddwl ac yn ymddwyn a gall hyn gael effaith sylweddol ar eich gallu i benderfynu a’ch amseroedd ymateb. Byddwch yn gall ynglŷn â gyrru ar gyffuriau a meddyliwch cyn i chi fynd tu ôl i’r olwyn neu dderbyn lifft gan rywun os ydych yn gwybod nad ydynt mewn stad i yrru. Cofiwch, mae meddu ar gyffuriau anghyfreithlon yn drosedd a gallech dderbyn cosb drom gan gynnwys dirwy a/ neu ddedfryd o garchar neu'r bwriad o gyflenwi ac mae'r cosbau'r un fath ac am yfed a gyrru; dirwy, gwaharddiad, a record droseddol. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol fod rhai cyffuriau ar bresgripsiwn a rhai y gallwch eu prynu dros y cownter fel meddyginiaeth ffliw hefyd effeithio ar eich gallu i yrru a darllenwch y label bod amser os ydych yn cymryd meddyginiaeth gan gynnwys gwrth-histaminau a thawelyddion. Os yw’r label yn eich cynghori i beidio 'gweithredu peiriannau trwm' dylech ei ystyried yn rhybudd i beidio mynd tu ôl i'r olwyn. 

Rydym yn gwybod nad yw yfed a gyrru'n cymysgu ac mae alcohol yn gyffur fel unrhyw un arall.  

Peidiwch ag yfed/ cymryd cyffuriau a gyrru. Peidiwch hyd yn oed ystyried y peth.

 

Beth sydd 'mlaen

17 Awst

Mae safle Sioe Dinbych a Fflint yng nghanol harddwch Dyffryn Clwyd ac mae wedi bod ar y safle presennol ar y Grîn, Dinbych ers 1990. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer y sioe eleni a gynhelir ddydd Iau, 17 Awst, pan fyddwn yn uno gyda Chyngor Sir Ddinbych eto i gynnal pabell ac arddangosfa, gan ddathlu 'Blwyddyn y Chwedlau' eleni.

Dysgwch sut y gallwch fod yn 'wirfoddolwr chwedlonol' a chynorthwyo Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint a Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda'u gwaith gwych yn harddwch cefn gwlad ac arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru.

Bydd modd i chi ddysgu am chwedlau eraill Cymru, cymryd rhan drwy adrodd straeon a chreu celf a chrefft chwedlonol.

Bydd digon o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys Hemlock y Ddraig a fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod.

Felly dewch draw i weld yr anturiaethau chwedlonol sydd ar gael yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddwn wedi'n lleoli ger y prif gylch ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

I gael rhagor o fanylion am Sioe Dinbych a Fflint, cliciwch ar y logo uchod i ymweld â'u gwefan

Theatr Clwyd

Mae nifer o ddigwyddiadau yn Theatr Clwyd – ewch i'r wefan i gael ysbrydoliaeth!

Beth sy’n Digwydd yn Sir y Fflint?

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy ...

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid